Emmy Hennings
Awdures o'r Almaen oedd Emmy Hennings (17 Ionawr 1885 - 10 Awst 1948) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel awdur a bardd.
Emmy Hennings | |
---|---|
Ffugenw | Charlotte Leander |
Ganwyd | 17 Ionawr 1885 Flensburg |
Bu farw | 10 Awst 1948 Sorengo |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | bardd, llenor, actor, perfformiwr cabaret, golygydd, canwr, chansonnier |
Mudiad | Dada |
Priod | Hugo Ball |
Plant | Annemarie Schütt-Hennings |
Bywyd
golyguGanwyd Hennings yn Flensburg, yr Ymerodraeth Almaenaidd, ac fe'i disgrifiodd ei hun fel 'plentyn i longwr'. Roedd yn berfformiwr teithiol a fu'n teithio dros rannau helaeth o gyfandir Ewrop ac roedd hefyd yn fardd; pan oedd yn perfformio yn y Cabaret Simplizissimus ym München.
cyfarfu â'r awdur Almaenaidd, Hugo Ball, ac fe briodasant yn ddiweddarach. Ni chawsant blant gyda'i gilydd, ond roedd gan Hennings ferch o berthynas gynharach. Bu'n byw tuag at ddiwedd ei hoes yn Magaliso, y Swistir (o 1942-1948).
Gyrfa
golyguRoedd Hennings eisoes wedi cyhoeddi nifer o'i gweithiau pan ddechreuodd ei gyrfa fel perfformwraig. Ymddangosodd ei gweithiau mewn cyhoeddiadau asgell chwith megis Pan a Die Aktion. Yn 1913 fe gyhoeddodd gasgliad o straeon byrion yn ogystal o dan y teitl Ether Poems (neu Äthergedichte). Yn ddiweddarach cyfrannodd at y cylchgrawn Revolution a sefydlwyd gan ei gŵr, Hugo Ball, a Hans Leybold. Symudodd Hennings a Ball i Zurich yn 1915 lle bu'r ddau yn gysylltiedig â sefydlu y clwb nos artistig, y Cabaeret Voltaire, a oedd yn nodi dechrau mudiad Dada, sef mudiad celf avant-garde.