Blodeugerdd Saesneg o Oes Elisabeth yw Englands Helicon a gyhoeddwyd ym 1600, gydag ychwanegiadau ym 1614. Hwn yw'r casgliad gorau o farddoniaeth delynegol a bugeilgerddi o'r cyfnod, ac mae'n cynnwys penillion gan Philip Sidney, Edmund Spenser, Michael Drayton, Robert Greene, Thomas Lodge, Walter Raleigh, Christopher Marlowe, ac eraill.[1]

Englands Helicon
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 323.