Englefield Green
pentref yn Surrey
Pentref mawr yn Surrey, De-ddwyrain Lloegr, ydy Englefield Green.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Runnymede. Saif 1 filltir (1.6 km) i'r gorllewin o dref Egham.
Delwedd:Englegreenchurch.jpg, EnglefieldGreen.jpg | |
Math | pentref |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Runnymede |
Daearyddiaeth | |
Sir | Surrey (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 9.21 km² |
Cyfesurynnau | 51.4301°N 0.5699°W |
Cod OS | SU995710 |
Cod post | TW20 |
Tyfodd y pentref o bentrefan yn y 19g, pan werthwyd rhan fawr o Egham a'r tir cyfagos gan Ystad y Goron.
Saif Cofeb y Lluoedd Awyr yn y pentref. Mae'r gofeb yn coffáu enwau dros 20,000 o awyrenwyr ac o awyrenwraig o'r Ymerodraeth Brydeinig a gollodd eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd, ac nad oes ganddynt feddau hysbys.
Lleolir campws Royal Holloway, Prifysgol Llundain ar gyrion y de.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 21 Gorffennaf 2020