Gweler hefyd: Ystad y Goron Cymru

Tir ac eiddo arall sydd ym meddiant brenin neu frenhines y DU "yn rhinwedd y Goron"—h.y. heb fod yn eiddo personol—yw Ystad y Goron (Saesneg: The Crown Estate). Mae'n mwynhau statws cyfansoddiadol amwys erbyn hyn. Mae'n perthyn i'r teyrn trwy etifeddiaeth ac eto heb fod yn rhan o'i eiddo personol; mae'n cyfrannu unrhyw elw i Drysorlys y DU ac eto dydy o ddim yn perthyn i Lywodraeth y DU chwaith ond yn hytrach mae'n cael ei redeg fel ymddiriedoraeth dan reolaeth "Y Bwrdd" neu (a defnyddio'r enw traddodiadol cyfarwydd) Comisiynwyr Ystad y Goron.[1] Mae yna wahaniaethau yn y ffordd mae'n cael ei rhedeg a'i rheoli yn yr Alban mewn cymhariaeth ag yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Ystad y Goron
Enghraifft o'r canlynolstatutory corporation Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1961 Edit this on Wikidata
SylfaenyddSiôr III, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gweithwyr397 Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.thecrownestate.co.uk/ Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Dechreuodd Ystad y Goron yn yr Oesoedd Canol yn Nheyrnas Lloegr. Yn 1760, daeth y brenin Siôr III o Brydain Fawr i gytundeb â llywodraeth y dydd i roi'r Ystad frenhinol i'r llywodraeth ei defnyddio i godi incwm mewn cyfnewid am gyfran o'r incwm hwnnw fel incwm personol i'r teulu brenhinol: dyma sail y Rhestr Sifil heddiw.[1]

Eiddo golygu

Er bod y term "Eiddo'r Goron" yn cynnwys tir ac eiddo o bob math sy'n perthyn i deulu brenhinol Prydain, dydy Ystad y Goron ddim yn rheoli'r holl eiddo hyn (mae eithriadau amlwg yn cynnwys Dugiaeth Cernyw a'r palasau brenhinol). Ond er hynny mae tir ac eiddo'r Ystad yn sylweddol iawn. Mae'n cynnwys[2]:

  • 55% o arfordir y DU, yn cynnwys rhan fawr o wely'r môr
  • Hawl i'r aur ac arian naturiol a ddarganfyddir yn y ddaear
  • 119,000 hectar (294,000 erw) o dir amaethyddol
  • Sawl parc, yn cynnwys Parc Windsor a pharciau Regent a St James yn Llundain
  • Eiddo a thai niferus, yn cynnwys Stryd Regent, Llundain

Cyfanswm gwerth y portffolio hwn yw £7.3 biliwn (£7,300,000,000).[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Gwefan Ystad y Goron: FAQs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-03. Cyrchwyd 2008-12-16.
  2. "Gwefan Ystad y Goron: Portfolio". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-31. Cyrchwyd 2008-12-16.
  3. "Gwefan Ystad y Goron: About Us". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-01. Cyrchwyd 2008-12-16.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato