Englynion Gwydion
Yr englynion a adroddodd Gwydion i alw Lleu Llaw Gyffes i lawr o'r dderwen yn y Mabinogi Math fab Mathonwy yw Englynion Gwydion. Cadwyn o dri englyn cyrch ydyn nhw.
Cymraeg Canol
(trosiad modern) |
Cymraeg Modern | |
---|---|---|
Pennil 1 | Dar a dyf y rwng deu lenn,
Gorduwrych awyr a glenn. Ony dywedaf i eu, O ulodeu Lleu ban yw hynn. |
Derwen a dyf rhwng dau lyn
yn cysgodi'n dawel awyr a glyn oni ddywedaf i gelwydd o flodau Lleu y mae hyn. |
Pennill 2 | Dar a dyf yn ard uaes,
Nis gwlych glaw, mwy tawd nawes. Ugein angerd a borthes. Yn y blaen, Lleu Llaw Gyffes. |
Derwen a dyf mewn maes uchel
nis gwlych glaw, nis tawdd gwres cynhaliodd ugain dawn ar ei brig Lleu Llaw Gyffes. |
Pennill 3 | Dar a dyf dan anwaeret,
Mirein modur ymywet. Ony dywedaf i [eu] Ef dydau Lleu y'm arfet. |
Derwen a dyf dan lechwedd
noddfa tywysog hardd oni ddywedaf i gelwydd fe ddaw Lleu i'm harffed. |
Llyfryddiaeth
golygu- Ifans, Dafydd & Rhiannon, Y Mabinogion (Gomer 1980). ISBN 1-85902-260-X. Diweddariad.
- Ifor Williams (gol.), Pedair Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1937). Y testun Cymraeg Canol gwreiddiol (tud. 94).