Mae Lleu Llaw Gyffes yn gymeriad sy'n ymddangos yn y bedwaredd gainc o'r Mabinogi, sef Math fab Mathonwy. Cydnabyddir Lleu i fod yr ymgnawdoliad Cymreig o'r duw Gwyddelig Lugh, a'r hen dduw Celtaidd, Lugus.

Geni'r efeilliaid Lleu a Dylan golygu

Yn ôl y chwedl, ni allai Math fyw ond tra byddai â'i ddeudroed yng nghôl morwyn. Wrth chwilio am forwyn, cynghorodd ei nai, Gwydion, iddo ddewis Arianrhod, chwaer Gwydion. I sicrhau mai morwyn oedd hi, gofynnodd Math iddi gamu dros ei hudlath ef. Wrth wneud hyn, ganwyd bachgen mawr, penfelyn, a bu iddi redeg ymaith mewn cywilydd, ond ar gyrchu'r drws, ganwyd rhywbeth bychan. Cymerodd Gwydion ef cyn i neb gael ail olwg arno, ei blygu mewn llen sidanwe, a'i guddio mewn cist fechan wrth droed ei wely. Yn y cyfamser, gwnaeth Math fedyddio'r bachgen mawr, penfelyn gyda'r enw Dylan. Cyn gynted ag y bedyddiwyd ef, fe aeth at y môr ac "fe gafodd natur y môr." Oherwydd hynny y gelwid ef yn Dylan Ail Don. Wedyn, clywodd Gwydion sgrech yn ei gist, ac o'i hagor, darganfod mab bychan. Cyrchodd y dref gyda'r plentyn i'r lle y gwyddai fod gwraig a allai feithrin y bachgen. Tyfodd y mab yn hynod o gyflym. Ymhen yr ail flwyddyn, yr oedd yn gallu cyrchu'r llys ar ei ben ei hun, felly o hyn ymlaen, fe'i magwyd yn y llys gan ei ewythr, Gwydion.

Lleu a thynghedau Arianrhod golygu

Aeth Gwydion gyda'r bachgen a chyrchu Caer Arianrhod i gyflwyno'r mab i'w fam. Ond digiodd Arianrhod, a dweud, "O, ŵr, beth sydd arnat ti, fy nghywilyddio i, ac erlid fy nghywilydd a'i gadw cyhyd â hyn?" Tyngodd Arianrhod dynged ar ei mab, "na chaiff enw hyd oni chaiff hynny gennyf i."

Magwyd Lleu gan Wydion yn Ninas Dinlle ger Caernarfon. Wrth Abermenai, ar draeth y Foryd, tyfai llawer o hesg. Trwy hud, adeiladodd Gwydion long ohonynt. Gwnaeth hefyd ledr hardd, a’i dorri’n barod i wneud esgidiau. Yna, newidiodd ei wedd ei hun a’r bachgen trwy swyn a rhoi dillad newydd iddynt, fel yr ymddangosent yn ddau grydd. Hwyliodd y ddau yn y llong hyd tua chaer Arianrhod ac angori wrth y gaer. Bu'r ddau yn ddiwyd yn gwneud esgidiau nes i ambell forwyn Arianrhod eu gweld a sylwi pa mor hardd oedd y lledr. Gwnaeth Gwydion y pâr yn rhy fawr a dychwelwyd hwy, a gofyn iddo wneud pâr arall. Gwnaeth yr ail bâr yn fwriadol rhy fach. Dychwelwyd y rhain eto. "Rhaid i’r dywysoges ddod yma i gael mesur ei throed," meddai Gwydion wrth y morynion.

Drannoeth, daeth Arianrhod ar fwrdd y llong i gael mesur ei throed ac nid adnabu Gwydion na’i mab. Tra mesurai Gwydion ei thraed, disgynnodd dryw bach ar hwylbren y llong. Taflodd y bachgen ato a tharo'r dryw yn ei goes. Chwarddodd Arianrhod ac meddai, "Duw a ŵyr, â llaw gelfydd y trawodd yr un golau ef," a chyda hynny, enillodd y mab ei enw: Lleu Llaw Gyffes.

Digiodd Arianrhod a thyngu tynged arall arno, sef, "na chaiff arfau fyth hyd oni wisgaf i hwy amdano." Ond unwaith eto trwy gyfrwystra lwyddodd Gwydion i dwyllo Arianrhod a chael ei chwaer i wisgo arfau am Leu. Yna, tyngodd Arianrhod dynged arall arno, sef, "na chaiff fyth wraig o'r genedl sydd ar y ddaear hon yr awr hon."

Wedi clywed hyn, aeth Gwydion at Fath mab Mathonwy am help, a chymerodd Gwydion a Math flodau’r derw, banadl, ac erwain, a thrwy hud lluniwyd y ferch dlysaf yn y byd o’r blodau. Galwyd hi yn Blodeuwedd, ac yn fuan wedi hynny, priodwyd hi a Lleu ac aeth y ddau i fyw i Fur y Castell ger Harlech.

Lleu a Blodeuwedd golygu

 
Lleu yn esgyn i'r awyr yn rhith eryr a Blodeuwedd yn gwylio (darlun o argraffiad 1877 o Mabinogion Charlotte Guest)

Ond ymhen amser, syrthiodd Blodeuwedd mewn cariad â Gronw Pebr, Arglwydd Penllyn, a chynlluniodd y ddau sut i gael gwared â Lleu. Gwyddai Blodeuwedd na ellid lladd Lleu fel dyn cyffredin, a holodd ei gyfrinach gan gymryd arni ei bod yn poeni amdano.

"Paid â phoeni," meddai Lleu. "Dim ond un ffordd y gellir fy lladd. Rhaid yn gyntaf i mi ymolchi mewn cafn â tho arno ar lan afon. Wedyn, os safaf ar un troed ar ymyl y cafn a’r llall ar gefn bwch, a’m taro â gwaywffon, yna gellir fy lladd. Ond rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig."

Adroddodd Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw, a dechreuodd wneud y waywffon. Ymhen blwyddyn, yr oedd popeth yn barod. Yr oedd Blodeuwedd, Lleu, a Gronw ar lan Afon Cynfal (ger Ffestiniog heddiw). Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa ar sut y safai cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod fod Gronw yn cuddio gerllaw.

Taflodd Gronw y waywffon at Lleu a throwyd ef yn eryr a chyda bloedd ofnadwy, hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn, priodwyd Gronw Pebr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am hyn, penderfynodd fynd i weld beth a ddigwyddodd i Lleu.

Gyda chymorth hwch, daeth Gwydion o hyd i'w nai yn eistedd ar frigyn uchaf derwen. Meddyliodd ar unwaith mai Lleu oedd yr eryr a dechreuodd adrodd englynion wrtho, sef Englynion Gwydion, nes iddo ddisgyn ar lin Gwydion. Yna, trawodd yr aderyn â hudlath gan ddychwelyd Lleu Llaw Gyffes i'w ffurf wreiddiol, ond yn wael iawn ei wedd.

"Mynnaf ddial y cam a gefais," meddai Gwydion, ac aeth i chwilio am Flodeuwedd. Daliwyd hi wrth Lyn y Morynion, a dywedodd Gwydion wrthi, "Ni chei dy ladd, ond cei dy droi yn aderyn ac oherwydd y cam a wnaethost â Lleu, ni chei ddangos dy wyneb yn y dydd rhag ofn yr holl adar eraill. Ni cholli dy enw, gelwir di byth yn Blodeuwedd." A chyda hynny, trowyd Blodeuwedd yn dylluan. Bu raid i Gronw Pebr sefyll fel y gwnaeth Lleu ar lan Afon Cynfal a lladdwyd ef gan Lleu â gwaywffon.

Llyfryddiaeth golygu

  • Ifans, Dafydd & Rhiannon, Y Mabinogion (Gomer 1980) ISBN 1-85902-260-X
  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad diweddarach)