Ffracsiwn
Mae ffracsiwn (lluosog: ffracsiynau) yn ddull mathemategol o rannu rhywbeth i ddarnau llai, neu ddisgrifio'r rhannau hynny. Daw'r gair o'r Lladin fractus sef 'torri rhywbeth yn rannau llai', er enghraifft, mae'r diagram ar y dde yn dangos cylch (cacen efallai), sydd wedi'i dorri'n ddwy ran: chwarter (1/4) a thri-chwarter (3/4). Rhan o rywbeth mwy, felly, yw ffracsiwn.
Mae ffracsiwn syml (er enghraifft: ) yn cynnwys rhifiadur uwchben y linell (1) ac enwadur o dan y linell (4).
Ceir gwahanol fathau o ffracsiynau:
- ffracsiwn bondrwm - proper fraction
- ffracsiwn cyffredineg - common fraction
- ffracsiwn pendrwm - improper fraction
- ffracsiwn degol - decimal fraction
- ffracsiwn cynrychiadoleg - representative fraction
- ffracsiynau cywerth - equivalent fractions
Termau |
---|
|
Defnyddir rhifiaduron ac enwaduron hefyd mewn ffracsiynau cyfansawdd a ffracsiynau cymhleth. Y rhifiadur yw'r nifer o rannau (a phob un yr un faint). Mae'r rhif isod (yr enwadur) yn cynrychioli sawl rhan sydd i gyd. Gellir mynegi pob ffracsiwn mewn geiriau yn ogystal ê rhifau ee:
- = "chwarter", "un chwarter" neu "un allan o bedwar"
- = "hanner" neu "un allan o ddau"
- = "dau chwarter" neu "dau allan o bedwar"
- = "tri chwarter" neu "tri allan o bedwar"
- = "un degfed" neu "un allan o ddeg"
Ni all yr enwadur fod yn sero. Gellir cyfri ffracsiynau drwy eu hadio, eu tynnu, eu lluosi neu eu rhannu. Er enghraift, gellir dweud fod chwarter a thri-chwarter yn gwneud un cyfan mewn ffordd mathemategol, cynrychioladol: + = 1. Symbol ydy'r un o unrhyw beth ee gall fod yn gacen, yn fferm, yn fag o fferins ayb.
Mewn mathemateg, mae'r set o rifau a fynegir fel a/b yn cael ei alw'n rhif cymarebol,[1] a chaiff ei fynegi gan y symbol Q, sef quotient (Cymraeg: 'cyniferydd').
Ffracsiynau degol a dulliau eraill o gofnodi
golyguCeir dulliau eraill o gofnodi rhaniadau mathemategol, heb ddefnyddio rhifiaduron ac enwaduron, sef y dull degol (0.01) y dull canran (1%) a'r dull negydd (−2) - ac mae pob un o'r tri hyn yn hafal i un canfed (1/100).
Defnyddir ffracsiynau i gynrychioli cymhareb (sut mae dau swm yn perthyn i'w gilydd) a rhannu (mathemategol).[2] Fel hyn, mae'r ffracsiwn ¾ hefyd yn cynrychioli y gymhareb 3:4 ("tri i bedwar", sef cymhareb y rhan i'r cyfan) a'r rhaniadn 3 ÷ 4 ("tri wedi'i rannu gyda pedwar).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Porth Termau Cenedlaethol Cymru; adalwyd Mawrth 2016
- ↑ H. Wu, "The Mis-Education of Mathematics Teachers", Notices of the American Mathematical Society, Cyfrol 58, Rhif 03 (Mawrth 2011), page 374