Canran
Mewn mathemateg, canran yw'r nifer neu'r gymhareb a fynegir fel ffracsiwn o 100; mae'n air cyfansawdd: "cant" a "rhan" - y rhaniad allan o gant. Fe'i dynodir yn aml gan ddefnyddio'r arwydd canran, %; yn Saesneg, defnyddir y byrfoddau "pct.", "Pct" hefyd. Mae canran yn rhif di-ddimensiwn (rhif pur).
Enghraifft o'r canlynol | rhannau fesul nodiant, uned di-ddimensiwn, uned sy'n deillio o UCUM, unit of dimensionless quantity |
---|---|
Math | cymhareb |
Olynwyd gan | milran |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir canrannau i fynegi rhan gymarebol o gyfanswm.
Enghreifftiau
golyguMae 45% (ar lafar "pedwar deg pump y cant") yn hafal i 45⁄100, 45:100, neu mewn ffurf degol: 0.45.
Enghraifft 1
golyguOs yw 50% o gyfanswm y myfyrwyr yn y dosbarth yn ddynion, mae hynny'n golygu bod 50 o bob 100 o fyfyrwyr yn ddynion. Os oes 500 o fyfyrwyr, yna mae 250 ohonynt yn ddynion. 50% / 500 = 250; neu, "pum deg y cant wedi'i rannu gyda 500 yw dau gant a hanner".
Enghraift 2
golyguMae cynnydd o £0.15 ar bris torth o fara sy'n costio £2.50 yn gynnydd mewn ffracsiynol o 0.15/2.50 = 0.06. Fel canran, gellir nodi hyn fel cynnydd, neu godiad o 6%.
Mae'r rhan fwyaf o werthoedd canran, sy'n cael eu mynegi, rhwng 0 a 100, ond nid oes cyfyngiad! Pe bai'r dorth wedi dyblu yn ei phris gellir dweud fod y cynnydd £200.[1] Neu, yn enghraifft arall, mae'n arferol nodi 111% neu −35%, o ddydd i ddydd, er mwyn gwahaniaethu rhwng dau rif.
Hanes
golyguYn Rhufain hynafol, cyn bodolaeth y system ddegol, cyfrifwyd yn aml mewn ffracsiynau a oedd yn lluosrifau o 1/100. Er enghraifft, cododd Augustus dreth o 1/100 ar nwyddau a werthwyd mewn ocsiwn a elwir yn centesima rerum venalium. Roedd cyfri gyda'r ffracsiynau hyn yn gyfwerth â chanrannau cyfrifiadurol. Wrth i'r mathau gwahanol o ddarnau arian (o bob gwerth) ddatblygu yn yr Oesoedd Canol, daeth cyfrifi gydag enwadur o 100 ('enwadur' yw'r rhif a ysgrifennir o dan y llinell mewn ffracsiwn) yn fwy safonol ac o ddiwedd y 15g hyd at ddechrau'r 16g daeth yn gyffredin i destunau rhifyddol gynnwys cyfrifiadau o'r fath. Roedd llawer o'r testunau hyn yn cymhwyso'r dulliau hyn at elw a cholled, cyfraddau llog, a'r 'Rheol Tri'. Erbyn y 17g roedd yn safonol i ddyfynnu cyfraddau llog mewn 'hyn a hyn allan o gant'.
Y symbol %
golyguTarddodd y symbol o'r Lladin per centum, sef "gan gant" neu "o gant".[2] Wrth i'r Lladin newid i'r Eidaleg, defnyddiwyd y term "per cento", sef "am gant". Talfyrrwyd y "per" yn "p" o dipyn i beth, nes diflannu'n llwyr. Talfyrrwyd y gair yma'n ddau gylch (yr "c" a'r "o", o bosib, a throdd y "t" yn flaenslaes (/) gan roi %.
Milran
golyguYn yr un modd, gellir mynegi rhif fel ffracsiwn o 1,000 gan ddefnyddio'r term "per mille" (Lladin am "y fil; weithiau per mil") neu yn Gymraeg: "milran". Fe'i dynodir gan ddefnyddio'r arwydd ‰.