Enwogion Ceredigion (Gwynionydd)

llyfr (gwaith)

Mae Enwogion Ceredigion yn fywgraffiadur Cymraeg gan Benjamin Williams (Gwynionydd; 1821 - 1891). Cyhoeddwyd y llyfr gan wasg William Spurrell Caerfyrddin ym 1869. [1]

Wynebddalen y gyfrol

Heb gyfrif y tudalennau sy'n rhestri'r tanysgrifwyr mae gan y llyfr 262 o dudalennau a thua 500 o fyr fywgraffiadau. Mae'r bywgraffiadau yn amrywio o fod yn erthyglau eithaf hir am bobl enwog iawn fel Dafydd ap Gwilym, sy'n erthygl 8 dudalen, i bytiau un llinell megis yr un i Sant Caron:

"CARON, sant a sylfaenodd Eglwys Tregaron. Cedwid ei wyl ef ar y pummed (sic) o Fawrth."

Er bod y mwyafrif mawr o'r bywgraffiadau i ddynion, mae'r llyfr yn cynnwys mwy o erthyglau na'r disgwyl, o ystyried ei gyfnod, i fenywod hefyd. Yn ei ragymadrodd i'r gyfrol mae Gwynionydd yn egluro ei fod wedi hepgor erthyglau am bobl megis Eliezer Roberts; Dr Phillips, Neuaddlwyd; Azaraiah Shadrach ac eraill, gan na chawsant eu geni yn y sir. Wrth ysgrifennu cofiant i Gwynionydd yn Y Bywgraffiadur Cymreig ym 1959 (90 mlynedd ar ôl cyhoeddi'r llyfr) mae Syr William Llewelyn Davies yn nodi bod y llyfr yn " gwaith sy'n parhau i fod yn ddefnyddiol". [2] Byddai modd defnyddio'r llyfr, hyd heddiw, ee fel ffynhonnell syniadau ar gyfer erthyglau Wicipedia, ond o ystyried ei hoedran byddai’n rhaid gwirio pob gwybodaeth efo ffynonellau mwy dibynadwy.

Enillodd Gwynionydd gwobrau eisteddfodol am draethawd am "Hanes Castell-Emlyn", a thraethawd ar draddodiadau Sir Aberteifi. Mae'r rhagymadrodd i Enwogion Ceredigion yn awgrymu bod y gwaith hwn wedi ei gyflwyno, heb lwyddiant, i gystadleuaeth eisteddfodol a bod yr awdur yn teimlo ei fod wedi cael cam:

"Mae pob cangen o wybodaeth yn gofyn llawer o ymchwil cyn ei meistroli; ond y mae yr "Eisteddfod," neu yn hytrach un neu ddau o'i swyddwyr, yn golygu hynafiaeth Gymreig yn wahanol, gan y penodir dynion heb erioed dalu sylw i'r wyddor yn feirniaid; ac ymesyd dynsodion anhynafiaethol at ysgrifennu, a thyciant yn fynych i gael gwobrau, ac felly mae llenyddiaeth Gymreig yn ddirmygus yng ngolwg y byd".

Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i ddarllen yn di dâl ar wefan Internet Archive. [3]

CyfeiriadauGolygu

  1. Copi digidol o'r llyfr ar Internet Archive adalwyd 7 Mawrth 2020
  2. Davies, W. Ll., (1953). WILLIAMS, BENJAMIN (‘Gwynionydd’; 1821 - 1891), clerigwr ac awdur. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 7 Maw 2020
  3. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2020-03-07.