Azariah Shadrach
Gweinidog ac awdur testunau crefyddol o Gymru oedd Azariah Shadrach (24 Mehefin 1774 – 18 Ionawr 1844), a enillodd i'w hun yr enw "Bunyan Cymru"[1] am iddo gyhoeddi pedwar llyfr ar hugain o lyfrau defosiynol ac esboniadol yn amlygu ei Galfiniaeth uniongred.
Azariah Shadrach | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mehefin 1774 Llanfair Nant y Gôf |
Bu farw | 18 Ionawr 1844 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor |
Bywgraffiad
golyguBrodor o blwyf Llanfair ger Abergwaun yn Sir Benfro oedd Azariah, lle y'i ganed yn 1774. Ar ôl treulio cyfnod yn cadw ysgolion lleol yng ngogledd Cymru, daeth yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Llanrwst yn 1802. Ar ôl cyfnodau ym mhlwyfi Tal-y-bont a Llanbadarn Fawr yng Ngheredigion, daeth yn weinidog capel Seion yr Annibynwyr yn Aberystwyth. Bu farw yn 1844.[1]
Gwaith llenyddol
golyguRoedd yn Galfinydd uniongred a wrthwynebai Arminiaeth. Un o'i lyfrau cynharaf oedd Allwedd Myfyrdod (1801). Ysgrifennai yn Gymraeg yn bennaf ond mae ei waith yn cynnwys un llyfr Saesneg, sef Meditations on Jewels a gyhoeddwyd yn 1883 bron i ddeugain mlynedd ar ôl ei farwolaeth. Am gyfnod bu cryn fri ar y llyfrau hyn.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Allwedd Myfyrdod (1801)
- Drych Cywir (1807)
- Rhosyn Saron (1816)
- Tabernacl Newydd (1821)
- Meditations on Jewels (1883)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).