Ernest Vaughan, 4ydd Iarll Lisburne

gwleidydd (1800-1873)

Roedd Ernest Augustus Vaughan, 4ydd Iarll Lisburne (30 Hydref 18008 Tachwedd 1873); 10fed Is-iarll Lisburne o 1820 i 1831; yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Ceredigion o 1854 i 1859.[1]

Ernest Vaughan, 4ydd Iarll Lisburne
Ganwyd1800 Edit this on Wikidata
Bu farw1873 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadJohn Vaughan Edit this on Wikidata
MamLucy Courtenay Edit this on Wikidata
PriodMary Palk, Elizabeth Augusta Harriet Mitchell Edit this on Wikidata
PlantErnest Augustus Malet Vaughan, Lady Gertrude Dorothy Harriet Adelaide Vaughan, Lady Elizabeth Malet Vaughan, Wilmot Shafto Vaughan, Edward Courtenay Vaughan Edit this on Wikidata
Arfbais Iarll Lisburn

Bywyd Personol

golygu

Roedd Lisburne yn fab i John Vaughan, 3ydd Iarll Lisburne a Lucy merch William, 2il Is-iarll Courtenay. Er bod gan y teulu teitlau ym mhendefigaeth yr Iwerddon yr oedd yn deulu o dras uchelwrol Gymreig. Sefydlwyd hynafiad yr Iarll, Ifor Fychan, yn ystâd y Trawsgoed, Llanafan yn y 12 ganrif a fu teulu’r Fychaniaid yn byw yno hyd 1947.[2]

Priododd dwywaith. Priododd ei wraig gyntaf, Mary, ym 1835. Roedd hi’n ail ferch Syr Laurence Palk a’r Ledi Elizabeth Vaughan. Roedd Mary yn gyfnither iddo. Bu iddynt dau fab ac un ferch. Bu Mary farw ym 1851. Priododd ei ail wraig, Elizabeth Augusta Harriet Elizabeth, merch y Cyrnol Hugh Henry Mitchell ym 1853; bu iddynt un ferch.

Etifeddodd ystâd y Trawsgoed, a’r Iarllaeth, ar farwolaeth ei dad ym 1831. Gwariodd ffortiwn yn gwella ac ehangu’r ystâd gan blannu coedwigoedd a chreu gerddi. Yn ogystal â gwella ei diroedd roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn gwella stoc hefyd, gan ddod yn enwog fel bridiwr gwartheg swydd Henffordd a defaid rhostiroedd yr Amwythig [3].

Gwasanaethodd fel Uchel Sirif Ceredigion ym 1850-1

Gyrfa Wleidyddol

golygu

Ymddiswyddodd William Edward Powell AS Ceredigion o’r Senedd ychydig cyn ei farwolaeth ym 1854 ac etholwyd Lisburne yn ddiwrthwynebiad fel olynydd iddo. Er ei fod yn Iarll, gan fod ei deitl yn perthyn i bendefigaeth yr Iwerddon nid oedd yn cael eistedd yn Nhŷ Arglwyddi'r Deyrnas Unedig, gan hynny roedd hawl ganddo gynnig am le yn Nhŷ’r Cyffredin. Fe’i hetholwyd yn ddiwrthwynebiad eto yn etholiad cyffredinol 1857. Penderfynodd beidio sefyll yn etholiad 1859 oherwydd problemau iechyd[4].

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref, y Trawsgoed, yn 73 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orffwys yn Eglwys Sant Afan, Llanafan, Ceredigion.

Cyfeiriadau

golygu
  1. William Courthope ‘’Debrett's Complete Peerage of the United Kingdom of Great Britain and Ireland’ 1838 adalwyd Awst 29 2017
  2. Nicholas, Thomas 1872 Annals and antiquities of the counties and county families of Wales adalwyd Awst 29 2017
  3. "DEATH OF THE EARL OF LISBURNE - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1873-11-14. Cyrchwyd 2017-08-29.
  4. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd Awst 29 2017
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Edward Powell
Aelod Seneddol Ceredigion
18541859
Olynydd:
William Thomas Rowland Powell