Erthygl olygyddol

Erthygl farn a ysgrifennir gan staff ar fwrdd golygyddol papur newydd neu gylchgrawn yw erthygl olygyddol. Maent gan amlaf yn ddilofnod ac yn adlewyrchu barn y cyhoeddiad ar faterion cyfoes. Mewn nifer o gyhoeddiadau ymddengys yr erthygl olygyddol ar dudalen olygyddol neu mewn adran farn, nesaf at lythyrau i'r golygydd, y cartŵn golygyddol, yr op-ed, a cholofnau barn.

Eginyn erthygl sydd uchod am newyddiaduraeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.