Erzurum
Dinas yn ne-ddwyrain Twrci a chanolfan weinyddol y dalaith o'r un enw (Erzurum) yw Erzurum.
![]() | |
Math | bwrdeistref fetropolitan Twrci, dinas fawr, dinas ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 767,848 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | Kemalpaşa ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tyrceg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Erzurum, Erzurum Vilayet, Erzurum Eyalet ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 1,900 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 39.9097°N 41.2756°E ![]() |
Cod post | 25x xxx ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Erzurum ![]() |
![]() | |
Mae'n gorwedd mewn llecyn strategaidd wrth droed mynyddoedd dwyrain Anatolia ar y briffordd rhwng Ankara, prifddinas Twrci, a Tehran, prifddinas Iran. Mae rheilffordd yn ei chysylltu ag Ankara ac Iran yn ogystal.
Hanes
golyguErs canrifoedd mae Erzurum wedi bod yn faen clo i amddiffyn y wlad rhag ymosodiadau o'r dwyrain. Mae'n gorwedd ar gangen bwysig o Lwybr y Sidan ac rheolai ffordd y carafanau a'r fasnach dir rhwng Ewrop a'r Dwyrain Pell. O'r herwydd roedd gan nifer o wledydd Ewropeaidd eu cynrychiolwyr yno yn y gorffennol, e.e. Lloegr mor gynnar â 1690.
Adeiladau ac Atyniadau
golyguNodweddir y ddinas gan nifer o adeiladau hardd iawn o gyfnod y Seljuciaid, yn eu plith mosg trawiadol y Çifte Minare a'r hen ysgol Islamaidd, y Yakutiye Medrese, a godwyd ym 1308. Sefydlwyd prifysgol Erzurum yn 1957.