Estyn
Asiantaeth sy'n gyfrifol am arolygu ysgolion a hyfforddiant ysgol yng Nghymru
Asiantaeth sy'n gyfrifol am arolygu ysgolion a hyfforddiant ysgol yng Nghymru yw Estyn, a adnabyddir hefyd fel Arolygiaeth Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae'n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n gorff annibynnol.
Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu ysgolion ac adrodd ar gyrhaeddiadau ysgolion ar bob lefel o addysg ofynnol, yn cynnwys cylchoedd meithrin, rhaglenni a gyllidir gan y llywodraeth, a cholegau addysg uwch, yn cynnwys addysg i oedolion. Lleolir pencadlys Estyn yng Nghaerdydd. Daeth Bill Maxwell yn brif arolygydd yn 2008, bydd yn ymddeol ym mis Chwefror 2011.
Y corff sy'n cyfateb i Estyn yn yr Alban yw His Majesty's Inspectorate of Education (HMIE), ac yn Lloegr, Ofsted.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2008-05-16 yn y Peiriant Wayback