Etholiad canol tymor yr Unol Daleithiau

Etholiadau canol tymor yn yr Unol Daleithiau yw'r etholiadau cyffredinol sy'n cael eu cynnal ym mis Tachwedd bob pedair blynedd, tua hanner ffordd trwy dymor pedair blynedd yr arlywydd. Mae'r swyddi ffederal sy'n cael eu hethol yn yr etholiadau canol tymor yn cynnwys aelodau Cyngres yr Unol Daleithiau: pob un o'r 435 sedd yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau a 33 neu 34 o'r 100 sedd yn Senedd yr Unol Daleithiau.

Yn ogystal â hynny, mae 34 o 50 Talaith yr Unol Daleithiau yn ethol eu llywodraethwyr am dymor o bedair blynedd yn ystod yr etholiadau canol tymor, tra bod VermontNew Hampshire yn ethol llywodraethwyr am dymor o ddwy flynedd, a hynny yn yr etholiadau canol tymor a'r etholiadau arlywyddol. Felly, mae 36 o lywodraethwyr yn cael eu hethol yn yr etholiadau canol tymor. Mae nifer o daleithiau hefyd yn ethol swyddogion i'w deddfwrfeydd taleithiol yn y blynyddoedd canol tymor. Mae etholiadau hefyd yn cael eu cynnal ar lefel dinesig. Mae nifer o feiri, swyddogion cyhoeddus lleol, a mentrau dinasyddol yn cael eu hethol bryd hynny.

Mae etholiadau arbennig yn aml yn cael eu cynnal mewn cysylltiad â'r etholiadau canol tymor, felly gall Seneddwyr, llywodraethwyr a swyddogion lleol eraill gael eu hethol am dymorau rhannol.

Fel arfer, mae llai o etholwyr yn cymryd rhan mewn etholiadau canol tymor nag mewn etholiadau arlywyddol. Mae tua 50–60% wedi pleidleisio yn yr etholiadau arlywyddol yn y 60 mlynedd ddiwethaf, ond dim ond tua 40 y cant o'r rhai sydd a'r hawl i bleidleisio sy'n bwrw eu pleidlais yn yr etholiadau canol tymor.[1][2] Bydd plaid yr arlywydd fel arfer yn colli seddi yn yr etholiadau canol tymor, a bydd gwrthwynebwyr yr arlywydd yn aml yn ennill grym.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Demand for Democracy". The Pew Center on the States. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-18. Cyrchwyd 2011-10-13. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Desilver, D. (2014) Voter turnout always drops off for midterm elections, but why?
    Pew Research Center, July 24, 2014.
  3. Busch, Andrew (1999). Horses in Midstream. University of Pittsburgh Press. tt. 18–21. Cyrchwyd 22 Medi 2015.