Ettelbruck
Cymuned a thref yng nghanol Lwcsembwrg yw Ettelbruck (Lwcsembwrgeg: Ettelbréck, Almaeneg: Ettelbrück). Mae gyda'r dref boblogaeth o 6,191 o breswyliwyr (2005). Dwedir fod yr enw 'Ettelbruck' yn dod o oresgyniad Attila, brenin yr Hyniaid, ym 451 OC. Adeiladodd Attila a'i fyddin bont (sef Bruck) dros afon Alzette ger y dref. Enwir Attila Ettel gan yr werin leol, felly adnabyddir y lle fel Pont Ettel, sef Ettelbruck.
Math | bwrdeistref Lwcsembwrg |
---|---|
Poblogaeth | 9,965 |
Pennaeth llywodraeth | Jean-Paul Schaaf |
Daearyddiaeth | |
Sir | Canton of Diekirch |
Gwlad | Lwcsembwrg |
Arwynebedd | 1,518 ha |
Uwch y môr | 264 metr |
Yn ffinio gyda | Bourscheid |
Cyfesurynnau | 49.8464°N 6.0992°E |
Pennaeth y Llywodraeth | Jean-Paul Schaaf |
Mae Ettelbruck wedi ei lleoli lle mae tair afon yn cyfarfod: Sauer (Ffrangeg: Sûre), Wark ac Alzette. Mae'r lleoliad hwn wedi gwneud o'r dref prif ganolbwynt trosgwyddiad yng Ngwlad Lwcsembwrg.
Meddiodd yr Almaen Natsïaidd Ettelbruck ar y 10 Mai 1940. Rhyddheuodd lluoedd arfol Americanaidd y dref ar yr 11 Medi 1944, ond cymerodd yr Almaen y dref yn ôl ar yr 16 Hydref 1944 yn ystod 'Brwydr y Chwydd'. Ar Ddydd Nadolig 1944, arweinodd Cadfridog Americanaidd George S. Patton ei luoedd i ryddhad terfynol Ettelbruck o feddiant y Natsïaidd.