Eurgain Haf
Awdur o Gymraes yw Eurgain Haf.
Eurgain Haf | |
---|---|
Ganwyd | Penisa'r-waun |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, press secretary |
Cafodd Eurgain Haf ei geni a'i magu ym Mhenisarwaun yn Arfon a mynychodd Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug cyn mynd ymlaen i Brifysgol Cymru Aberystwyth i astudio Cymraeg a Drama. Yna dilynodd gwrs ymchwil MPhil ar y pwnc Addasu'r Nofel ar gyfer y Sgrîn. Ymgartrefodd ym Mhontypridd gyda'i gŵr Ioan ac mae ganddynt dau o blant, Cian Harri a Lois.
Bu'n gweithio yng Nghaerdydd fel Swyddog y Wasg i S4C. Mae'n gweithio fel Uwch Reolwr y Wasg a’r Cyfryngau i elusen Achub y Plant Cymru.
Mae wedi cyhoeddi deuddeg o lyfrau ar gyfer plant. Cyhoeddodd sawl nofel i blant am y cymeriad Siencyn (Dref Wen).[1]
Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn EIsteddfod Genedlaethol 2024 am ei nofel Y Morfarch Arian.[2]
Cyhoeddiadau
golyguMae Eurgain wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau gan gynnwys y canlynol;
- Cyfres Strach: Yr Allwedd Aur (2010)
- Cyfres Strach: Gedonia (2013)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "www.gwales.com - 1848512864". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
- ↑ "Eurgain Haf yn ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf". newyddion.s4c.cymru. 2024-08-07. Cyrchwyd 2024-08-07.
Gwybodaeth o Gwales |
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Eurgain Haf ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith. |