Evelyn Anna Lewes
Awdur o Gymru oedd Evelyn Anna Lewes (c. 1873 - 1961). Dywedir ei bod yn wraig o bersonoliaeth gref a addysg breifat.
Evelyn Anna Lewes | |
---|---|
Ganwyd | 1873 Canada |
Bu farw | 4 Mawrth 1961 Croesoswallt |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor |
Teulu a magwraeth
golyguRoedd Evelyn Anna Lewes yn ferch i'r uwchgapten Price Lewes, swyddog cynorthwyol gyda milisia Penfro, a'i wraig Florence (g. Kinnear, o Halifax, Nova Scotia); ganwyd Evelyn c. 1873 yng Nghanada, ond magwyd hi yn Poyston, yng nghymuned Rudbaxton, Sir Benfro. Oddeutu 1902 symudodd y teulu o Ganada i Dyglyn Aeron, ger Ciliau Aeron, Llambed, Ceredigion. Roedd Tyglyn Aeron yn un o hen gartrefi'r teulu, ar ochr ei thad, a oedd o linach uchelwrol, yn ynadon, siryfion ac aelodau seneddol. Oddeutu 1928 symudodd Evelyn Anna Lewes i Abersytwyth i fyw.[1][2][3][4]
Awdures
golyguYn 1895 y dechreuodd gyhoeddi ei gwaith: cerddi yn gyntaf, yn Wales ac yna erthyglau a storïau, a hynny hyd at 1940. Ymhlith y cylchgronnau lle cyhoeddodd ei gwaith mae:
- The Gentleman's Magazine (c. 1905)
- The Field and the Queen (c. 1905-14)
- The Bookman, Fishing Gazette, (1923-31)
- T. P.'s and Cassell's Weekly, (1927)
- Every woman's world (Toronto) a
- Western Home monthly (Winnipeg)[5]
Yng Nghymru, cyhoeddod yn y Western Mail, y Cambrian News ac ati.
Marwolaeth
golyguBu farw 4 Mawrth 1961 yn ysbyty Croesoswallt, a chladdwyd ei lludw ym mynwent Trefilan, Ceredigion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhyw: https://biography.wales/article/s2-LEWE-ANN-1873. dyddiad cyrchiad: 26 Awst 2019.
- ↑ Dyddiad geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
- ↑ Dyddiad marw: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
- ↑ Man geni: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
- ↑ bywgraffiadur.cymru' adalwyd 6 Medi 2019.
- ↑ Galwedigaeth: Y Bywgraffiadur Cymreig (yn Saesneg a Cymraeg). 1 Gorffennaf 1997. ISBN 978-0-900439-86-5. OL 11343067M. Wikidata Q5273977.
- Mary Auronwy James (1997); gweler y Bywgraffiadur Cymreig