Ewyllys rydd
(Ailgyfeiriad o Ewyllys rhydd)
Y gallu honedig o gyfryngau i wneud dewisiadau sydd ddim yn cynnwys cyfyngyddion yw ewyllys rydd. Yn ôl y ddamcaniaeth hon, Benderfyniaeth yw'r prif gyfyngydd metaffisegol. O fewn y ddamcaniaeth honno fe gynhwysir rhyddewyllysiaeth fetaffisegol, sy'n ddatganiad fod penderfyniaeth yn ffug a bod ewyllys rydd yn bodoli felly, a phenderfyniaeth galed, sy'n ddatganiad fod penderfyniaeth yn wir ac nid yw ewyllys rydd yn bodoli felly.
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad athronyddol, cysyniad crefyddol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |