Nofel gan Ioan Kidd yw Dewis a gyhoeddwyd yn 2013 gan Wasg Gomer. Yn 2017 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Dewis
AwdurIoan Kidd
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781848515482
GenreFfuglen

Y tro cyntaf y caiff bywyd Mari ei ddryllio, does dim dewis ganddi ond dal ei gafael a brwydro ymlaen. Chwarter canrif yn ddiweddarach, a all hi wneud hynny eto? Stori am fywyd teulu cyfoes gyda phawb yn gorfod gwneud dewisiadau anodd.

Yr awdur golygu

Brodor o Gwmafan yng Ngorllewin Morgannwg yw Ioan Kidd ac mae'’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd. Hon yw ei bumed nofel a'’r drydedd i oedolion ac mae'’n awdur cyfrol o storïau byrion hefyd.

Adolygiad ar wefan Gwales golygu

Yn ei adolygiad o'r gyfrol dywedd R. Arwel Jones: Mae’r teulu modern yn rhwydwaith eang a chymhleth ei wead o ran dilyniant o briodasau, o ran cyfeillgarwch a rhywioldeb. Er gwaethaf pob drama, mae yna deuluoedd sy’n llwyddo i gadw’r cwch yn y dŵr wrth hwylio’r moroedd tymhestlog hyn. A dyna sy’n digwydd yn y nofel ‘ddyrchafol’ (gair y broliant) hon.

Mae’r bennod gyntaf yn cyflwyno'r prif gymeriadau. Datgela’r awdur pwy yw pwy, beth yw eu perthynas a beth yw natur y broblem sy’n mynd i yrru’r stori yn ei blaen.

Salwch Mari, trigain oed, yw’r catalydd, ond nid yw’r stori, rhagor na Mari ei hun, yn cael ei llethu gan y salwch hwnnw. Y catalydd hwn sy’n bwrw Michael (ail ŵr Mari), Ifor (ei gŵr cyntaf) a’u tair merch i ferw’r stori a’u gorfodi i ailystyried eu perthynas â Mari, ac yn bwysicach na dim, eu perthynas â’i gilydd.

Un o’r llinynnau mwyaf annisgwyl sy’n rhedeg trwy’r nofel hon yw’r graean yng ngardd y cartref swbwrbaidd yng Nghaerdydd – graean osododd Ifor i arbed gwaith garddio, graean roedd Michael wastad wedi bwriadu ei symud er mwyn creu lawnt werdd, graean grafai esgidiau wrth ymadael am briodas y ferch hynaf, a fu'n rhwystr i gadair olwyn Mari a’r graean a achosodd y ddamwain yrrodd y stori tuag at ei therfyn.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017