Gŵyl Ffilm Cannes
Ystyrir Gŵyl Ffilm Cannes (Ffrangeg: Festival de Cannes), a sefydlwyd yn 1946, yn un o wyliau ffilm hynaf a phwysicaf y byd, gyda'r gwyliau a gynhelir yn Fenis a Berlin. Cynhelir yr ŵyl, ym mis Mai fel fel rheol, yn y Palais des Festivals et des Congrès yn nhref Cannes yn ne Ffrainc. Cynhaliwyd gŵyl 2008 rhwng 14 a 25 Mai.
Enghraifft o'r canlynol | annual film festival, digwyddiad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1946 |
Lleoliad | Cannes |
Yn cynnwys | Cannes Classics, Un Certain Regard, Cinéma de la Plage, Directors' Fortnight, Critics' Week, Cinéfondation |
Lleoliad yr archif | Cinémathèque Française |
Sylfaenydd | Jean Zay |
Enw brodorol | Festival de Cannes |
Gwefan | https://www.festival-cannes.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhennir y cystadleuathau yn wahanol adrannau. Bydd yr 62ain gŵyl yn digwydd o'r 13eg tan y 24ain o Fai, 2009. Llywydd y Rheithgor fydd yr actores Ffrengig Isabelle Huppert.
Gwobrau
golyguY wobr mwyaf aruchel a ddyfernir yn Cannes yw'r Palme d'Or ("Y Balmwydden Euraidd") am y ffilm orau.
- Cystadleuaeth
- Palme d'Or - Y Balmwydden Euraidd
- Grand Prix - Gwobr Mawreddog yr Ŵyll
- Prix du Jury - Gwobr y Rheithgor
- Palme d'Or du court métrage - Y Ffilm Fer Orau
- Prix d'interprétation féminine - Yr Actores Orau
- Prix d'interprétation masculine - Yr Actor Gorau
- Prix de la mise en scène - Y Cyfarwyddwr Gorau
- Prix du scénario - Y Sgript Orau
- Adrannau Eraill
- Prix Un Certain Regard - Talent ifanc a gweithiau blaengar a heriol
- Gwobrau Cinéfondation - Ffilmiau myfyrwyr
- Caméra d'Or - Ffilm Lawn Gyntaf Orau
- Rhoddir gan Unedau Annibynnol
- Prix de la FIPRESCI - Gwobr y Ffederasiwn o Feirniaid Ffilm
- Gwobr Vulcain - Rhoddir i artist technegol gan y C.S.T.
- Gwobrau'r Wythnos Beirniaid Rhyngwladol
- Gwobr y Rheithgor Eciwmenaidd