Falporad
Mae falporad a’i ffurfiau amgen asid falporig, sodiwm falporad a sodiwm difalproecs yn feddigyniaeth sydd yn cael ei ddefnyddio yn bennaf i drin epilepsi[1]. Yng ngwledydd Prydain mae’n cael ei ddosbarthu gan gwmni Sanofi o dan yr enw Epilim a gan gwmni Desitin Pharma Ltd o dan yr enw Episenta. Mae fersiynau generig or moddion ar gael hefyd[2].
Epilim | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | branched chain fatty acids |
Màs | 144.115 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₈h₁₆o₂ |
Enw WHO | Valproic acid |
Clefydau i'w trin | Anhwylder deubegwn, clefyd alzheimer cynnar, epilepsi absenoldeb plentyndod, trawiad rhannol cymhleth |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia d, categori beichiogrwydd unol daleithiau america x |
Dechrau/Sefydlu | 1967 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yng Ngwledydd Prydain mae’n gyffur sydd ar gael trwy bresgripsiwn meddygol yn unig.
Hanes
golyguCafodd asid falproig ei syntheseiddio gyntaf ym 1882 gan Beverly S. Burton fel analog o asid falerig, sydd i'w cael yn naturiol yn y planhigyn y triaglog gyffredin[3]. Cafodd ei ddefnyddio yn wreiddiol mewn labordai fel toddydd metabolaidd anadweithiol ar gyfer cyfansoddion organig. Ym 1962 bu’r ymchwilydd Ffrengig Pierre Eymard yn ei ddefnyddio fel cyfrwng ar gyfer nifer o gyfansoddion eraill oedd yn cael eu sgrinio ar gyfer defnydd posibl fel triniaethau ar gyfer epilepsi. Darganfyddai Eymyard bod yr asid falporig ei hun yn rhwystro llygod mawr rhag cael ffitiau. Fe'i cymeradwywyd fel cyffur atal epilepsi yn Ffrainc ym 1967. Bellach Falporad yw’r cyffur atal epilepsi a ragnodir yn fwyaf eang ledled y byd[4].
Defnydd
golyguMae falporad yn ddefnyddiol ar gyfer atal atafaeliadau absenoldeb epileptig, ffitiau epileptig rhannol, a ffitiau epileptig cyffredinol. Gellir ei gymryd yn fewnwythiennol neu drwy'r geg. Mae ar gael ar ffurf tabledi sy’n rhyddhau’r cyffur yn sydyn neu dros gyfnod hirach.[5]
Mae’r cyffur hefyd yn cael ei ddefnyddio i drin anhwylder deubegwn ac mewn rhai gwledydd megis UDA (ond nid gwledydd Prydain) ar gyfer y meigryn.
Sgil effeithiau
golyguMae sgil effeithiau cyffredin o gymryd y cyffur yn cynnwys teimlo’n gyfoglyd, chwydu, cysgadrwydd, a cheg sych. Mae sgil effeithiau mwy difrifol yn cynnwys problemau gyda’r afu a llid y cefndedyn (pancreatitis), awgrymir dylai cleifion derbyn profiadau gwaed rheolaidd i wirio gweithgaredd yr afu. Mae’r risg o gyflawni hunanladdiad yn uwch na’r cyffredin ymysg cleifion sy’n cymryd falporad[6].
Beichiogrwydd
golyguGall falporad achosi niwed difrifol i’r baban yn y groth os yw’n cael ei gymryd gan ferched beichiog. Mae plant i ferched sy’n cymryd y cyffur tair gwaith mwy tebygol o ddioddef o spina bifida na phlant eraill. Mae’r cyffur yn gallu effeithio ar ddatblygiad esgyrn y babi, yn arbennig esgyrn yr wyneb. Mae plant i famau a oedd yn cymryd falporad yn ystod beichiogrwydd yn fwy tebygol o gael symptomau awtistig ac i gael anawsterau dysgu.
O herwydd y peryglon awgrymir dylai merched o oedran cenhedlu defnyddio offer atal cenhedlu wrth ddefnyddio’r feddyginiaeth. Dylai merched sy’n cynllunio i gael plant trafod newid eu meddyginiaeth epilepsi cyn dod yn feichiog. Ni ddylai merched sy’n cymryd falparod sy’n canfod eu bod yn feichiog rhoi’r gorau i’r feddyginiaeth yn ddisymwth, gan fod mwy o beryglon i’r babi yn y groth pe bai’r fam yn cael trawiad; dylai’r fam cysylltu â’i meddyg fel mater o frys.
Gorddos
golyguGall gormod o asid falporig arwain at deimlo’n gysglyd, cryndod, syrthni, iselder anadlol, coma, asidosis metabolig, a marwolaeth.
Rhybudd Cyngor Meddygol
golygu
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Package information for the user of Epilim Chrono 200mg, 300mg, & 500mg controlled release Tablets Sanofi 2016
- ↑ Epilepsy Action Epilepsy medicines available in the United Kingdom
- ↑ "On the propyl derivatives and decomposition products of ethylacetoacetate". Am Chem J. 3: 385–395. 1882.
- ↑ "Pharmacological and therapeutic properties of valproate: a summary after 35 years of clinical experience". CNS Drugs 16 (10): 695–714. 2002. doi:10.2165/00023210-200216100-00004. PMID 12269862.
- ↑ The Migraine Trust Preventive medicines
- ↑ EMC+ Epilim 500 Gastro-resistant tablets