Marwolaeth
Marwolaeth yw diwedd bywyd organeb. Gall marwolaeth gyfeirio at ddiwedd bywyd fel digwyddiad neu gyflwr. Gall nifer o ffactorau gyfrannu at farwolaeth organeb gan gynnwys clefyd, dinistr cynefin, diffyg maethiad, damweiniau, ayyb. Prif achos marwolaeth ddynol yn ngwledydd datblygedig yw clefydau o achos oed. Mae marwolaeth yn chwarae rhan bwysig yn niwylliant dynol yn ogystal â nifer o grefyddau. Ym meddygaeth mae diffiniad biolegol marwolaeth wedi dod yn gymhleth iawn wrth i dechnoleg ddatblygu.

Marwolaeth wedi'i ymgorffori mewn ysgerbwd pladurwr yn Eglwys Llangar.