Fauda

cyfres thriler wleidyddol o Israel

Mae Fauda (فوضى; sy'n golygu "llanast" yn Arabeg) yn gyfres ddrama wleidyddol gignoeth a gynhyrchwyd gan deledu Israel ond sydd wedi ei dangos a bod yn hynod llwyddiannus ar draws y byd. Mae'r deialog yn Hebraeg ac Arabeg, neu ba' bynnag iaith sy'n weddus i'r cymeriad a'r sefyllfa.

Fauda
Genre
Crëwyd gan
Seiliwyd arOriginal script
Yn serennu
  • Lior Raz
  • Hisham Sulliman
  • Shadi Ma'ari
  • Laëtitia Eïdo
  • Tzachi HaLevy
  • Yuval Segal
  • Neta Gerti
  • Tomer Kapon
  • Itzik Cohen
  • Rona-Li Shimon
GwladIsrael
Iaith wreiddiolHebraeg
Arabeg
Nifer o dymhorau2
Nifer o benodau24
Cynhyrchiad
Gosodiad cameraSingle-camera
Hyd y rhaglen45 munud
Cwmni cynhyrchuYes - Satellite Television
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolYes Oh
Fformat y llun480i (SDTV)
1080i (HDTV)
Darlledwyd yn wreiddiolChwefror 15, 2015 (2015-02-15) – presennol
Dolennau allanol
Gwefan

Darlledwyd y gyfres 12 pennod yn Israel yn Chwefror 2015 ar sianel deledu lloeren y wlad yes (arddelir y gair Saesneg fel teitl y sianel). Yn ddiweddarach, ddarlledwyd y gyfres yn rhyngwladol trwy wasanaeth Netflix, a gyhoeddwyd fel rhaglen 'Netflix Original', gan ryddhau ar 2 Rhagfyr, 2016.[1] Darlledwyd ail gyfres ar Netflix yn 28 Mai 2018.

Yn ôl sylfaenwyr y gyfres, Lior Raz a Dan Senor, defnyddiwyd y gair 'fauda' gan Balesteiniaid i ddisgrifio bywyd bob-dydd, neu bodoli, adeg yr Iail Intifada, rhwng 2000 - 2007. I'r lluoedd cudd Israeli, defnyddir 'fauda' fel côd ar gyfer y ffaith eu bod wedi eu darganfod neu mewn perygl.[2]

Cefndir golygu

 
Lior Raz, Chwefror 2018, cyd-sefydlydd a phrif actor Fauda
 
Arlywydd Israel, Reuven Rivlin, gyda cynhyrchwyr 'Fauda', Chwefror 2018

Datblygwyd Fauda gan Lior Raz ac Avi Issacharoff o'u profiadau personol yn cyflawni eu gwasanaeth milwrol yn uned Duvdevan o Luo Amddiffyn Israel. Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf yn Israel ar 15 Chwefror 2015. Mae'n dilyn hanes a helynt 'Doron', a'r uned Mista'arvim (milwyr cudd-wybodaeth Israeli), a'i dîm wrth iddynt geisio dal un o brif ryfelwyr y mudiad annibyniaeth Palesteinaidd, Hamas a elwir yn "Y Panther".

Ffilmiwyd tymor cyntaf y gyfres yn ardal Kafr Qasim (sillefir hefyd, Kfar Kassem), tref fwyafrifol Arabaidd o fewn Israel, oddeutu 12 milltir i'r dwyrain o Tel Aviv ar y ffin gyda'r Glan Orllewinnol. Poblogaeth y dref yw 21,000[3] ac mae'n rhan o'r 'Triongl Fach', sef clwster o drefi a phentrefi Arabaidd o fewn tiriogaeth Israel.

Ym mis Mehefin 2016, enillodd y gyfres chwe Gwobr Ophir, gan gynnwys y "Cyfres Dramatig Gorau", yng Ngwobrau'r Academi Israel.[4]

Dechreuwyd ffilmio'r gyfres gyntaf yn 2014 yn union fel roedd cyrch Operation Protective Edge yn erbyn Gaza yn dechrau, gan ychwanegu at y tensiwn.[5] Penderfynodd y criw ffilmio a Maer Arabaidd tref Kfar Kassem barhau i ffilmio i ddangos bod mod cydweithio rhwng Iddewon ac Arabiaid.[5]

Y Gyfres golygu

  • Tymor 1 - Prif thema y gyfres gyntaf o Fauda yw dychweliad Doron i'r Uned Cudd-filwrol ac ymdrech yr Uned i ddienyddio'r rhyfelwr Hamas, 'Y Panther'. Yn gefndir i hyn mae helyntion carwriaethol, gwaith a gwleidyddiaeth yr Israelis a'r Palesteiniaid.
  • Tymor 2 - Prif thema yr ail gyfres yw ymgyprys gyda olynydd y Panther, Walid El Abed, a'r dial sydd rhwng yr Uned a grŵp Walid. Cymhlethir y sefyllfa gan driongl garwriaethol Doron, Dr Shirin a Walid.

Cymeriadau golygu

Yn y gyfres a ddarlledir, mae'r cymeriadau yn siarad yn yr iaith naturiol i'r cymeriad neu'r cyd-destun. Gwelir, felly, milwyr Israeli yn siarad Arabeg wrth fynd ar gyrch. Darlledwyd y gyfres gydag is-deitlai ar Netflix. Does dim fersiwn Saesneg. Mae hyn yn ychwanegu at ddilyrwydd y gyfres a'r cymeriadau.

Prif gymeriadau golygu

Doron Kabilio - chwaerir gan Lior Raz. Cyfansoddir teulu Doron gan ei wraig (Gali), mab a merch. Mae Doron, ar ôl gadael y fyddin, yn ennill ei fywolioaeth drwy ffermio a thyfu gwinllan, ac yn ceisio gwneud ei win ei hun. Daw hyn wedi cyfnod gythryblus yn ei fywyd yn yr Uned gwrth-derfysgol pan lwyddodd i ladd Abu Ahmad ("Y Panther") 18 mis ynghynt. Ond, wedi clywed gan yr Uned na lwyddwyd i ladd Abu Amhad wedi'r cyfan, mae'n dychwelyd nôl i faes y gâd.
Taufiq Hamed - chwaraeir gan Hisham Suliman. Gelwir y cymeriad hefyd yn "Abu Ahmad" a'i lysenw "Y Panther" sydd wedi ei gyhuddo o ladd 116 o Israeliaid. Credodd yr IDF iddynt ei ladd 18 mis ynghyny (cyn cychwyn y gyfres) ac iddo ei gladdu, ond, mewn gwirionedd, mae'n fyw ac yn pharatoi ymosodiadau terfysgol.[6] Mae Taufiq ailymddangos gan ymlweid â'i frawd ifancach i'w longyfarch ar ei briodas arfaethedig. .
Walid El Abed - chwaraeir gan Shadi Mar'i. Mae'n un o dîm Taufiq ac un o'r ychydig sydd yn dal i weld yn "Y Panther" ar ôl ei angladd.
Dr Shirin El Abed - chwaraeir gan Laëtitia Eid, 32 mlwydd oed, cefnder Walid.[7] Mae ei mam yn dod o Nablus ac mae'r tad o Paris. Bu'n gweithio gyda meddygon heb ffiniau, yr MSF, ers 2006. Astudiodd feddygaeth ym An-Najah Prifysgol Genedlaethol, ac ar hyn o bryd yn gweithio yn y Feddygfa Brys Ysbyty Rafidi. Mae hi'n weddw, priododd fferyllydd a fu farw bedair blynedd yn ddiweddarach ar sglerosis ymledol.
Gabi - chwaraeir gan a elwir hefyd yn Capten Eyov, gan Itzik Cohen
Mickey Moreno - chwaraerir gan Yuval Segal. Pennaeth Doron yn ei hen uned.
Gali Kabilio - chwaraeir gan Netta Garti. Gwraig Doron.
Nasrin Hamed - chwaraeir gan Hanan Hillo. Gwraig Taufiq.
Boaz - chwaraeir gan Tomer Kapon, fel gweddill y tîm, mae'n siarad Arabeg yn rhugl, ac yn gweithio gydag Arabiaid yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.[8] Ef yw brawd partner Gali a Doron.
Naor - chwaraeir chwarae gan Tzachi HaLevy
Nurit - chwaraeir gan Rona-Li Shimon, yw'r unig ddynes yn uned Doron. Mae'n uchelgeisiol a chlyfar ac yn dod yn gariad i Micky Moreno.
Avichay - chwaraeir gan Boaz Konforty
Hertzel 'Steve' Pinto - chwaraeir gan Doron Ben-David

Ail Gyfres ac is-gymeriadau golygu

Sagi - chwaraeir gan Idan Amedi. Ymddangos yn yr ail gyfres fel aelod i'r Uned. Mae'n Arab. Mewn bywyd go iawn, Idan Amedi gyfansoddodd gân arwydd-gân yr ail gyfres, Menasim ('Ceisio').[9]
Anat Kabilio - chwaraeir gan Mel Malka
Jihan Hamed - chwaraeir gan Khawlah Hag-Debsy
Shiekh Awadalla - chwaraeir gan Salim Dau
Gideon Avital - chwaraeir gan Uri Gavriel

Ymateb golygu

Mae'r ymateb i'r gyfres wedi bod yn bositif gan Iddewon ac Arabiaid.[10] sy'n nodi bod yn anarferl i glywed Arabeg ar deledu Israeli ac i gael cymeriadau crwn. Mae'r Arabiaid yn nodi gymaint o'h hiaith sydd yn y gyfres[11].

Yn ôl James Delingpole yng nghylchgrawn The Spectator, "[Fauda] gives you a far clearer understanding of what’s really going on in the Middle East than anything you’ll ever see on the BBC."[10]

Nodir bod y dref lle ffilmiwyd y gyfres, Kafr Qasim, wedi gweld twf economaidd a chydweithio rhwng Iddewon ac Arabiaid yn sgil y gyfres.[2]

Ym mis Mawrth 2018 fe gipiwyd Llywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bir Zait ar y Glan Orllewinol (oedd yn aelod o Hamas) gan cudd-filwyr Israel. Disgrifiwyd y cyrch, lle roedd y milwyr wedi eu gwisgo mewn dillad cyffredin nid lifrau, "fel rhywbeth o'r gyfres 'Fauda'" gan y wasg.[12]

Cerddoriaeth golygu

Mae caneuon oddi ar y gyfres wedi bod yn boblogaidd. Mae'r arwydd-gan i'r ail gyfres, מנסים (Menasim, 'Ceisio') wedi denu dros 2 filiwn o hits hyd at Hydref 2018.[9] Cyfansoddwyd y gân gan Idan Amedi sydd yn actio rhan 'Sagi', ac mae Lior Ras ('Doron') yn trosleisio mewn Arabeg ar ddechrau'r gân. Mae golygfa lle bydd 'Naor' (Tzachi HaLevy) yn canu'r gân Arabaidd, Tamelly Maak, i gysuro ei gyd-filwyr yn dilyn cyrch, yn un sy'n sefyll yn y cof. Mae'n dangos, er gwaethaf yr ymladd, bod cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad o'r diwylliant Arabaidd.[13]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://variety.com/2016/tv/news/netflix-israeli-political-thriller-fauda-1201912287/
  2. 2.0 2.1 https://www.youtube.com/watch?v=HN8CP5jS5l4
  3. http://www.cbs.gov.il/ishuvim/reshimalefishem.pdf
  4. name="s2">Next season's Fauda to reflect real news, says creator
  5. 5.0 5.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-10. Cyrchwyd 2018-10-13.
  6. name="Ep1"> «Episode 1». . Fauda (Yes), Temporada:1 , episodi:1. « »
  7. name="Ep3"> «Episode 3». . Fauda (Yes), Temporada:1 , episodi:3. « »
  8. name="Ep2"> «Episode 2». . Fauda (Yes), Temporada:1 , episodi:2. « »
  9. 9.0 9.1 https://www.youtube.com/watch?v=ykcuk4tnzuk
  10. 10.0 10.1 https://www.spectator.co.uk/2018/06/why-is-this-israeli-drama-such-a-hit-with-palestinians-because-it-tells-the-truth/
  11. https://www.youtube.com/watch?v=5l3mUjpHMIg
  12. https://www.ynetnews.com/articles/0,7340,L-5149624,00.html
  13. https://www.youtube.com/watch?v=F_HVjP6u8kw