Ferdawsi
Hakīm Abul-Qāsim Firdawsī Tūsī (Perseg: حکیم ابوالقاسم فردوسی توسی), y trawslythrennir ei enw personol gan amlaf yn Firdawsi, Firdausi neu Ferdowsi (935–1020), yw efallai'r bardd mwyaf ei barch yn yr iaith Berseg ac un o brif ffigyrau diwyllianol Iran. Mae Firdawsi'n adnabyddus yn bennaf fel awdur yr arwrgerdd hir Shāhnāma (sef 'Llyfr y Brenhinoedd'), epig genedlaethol Persia (Iran heddiw).
Ferdawsi | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | حَکیم اَبوالقاسِم فِردُوسی طوسی ![]() 940 ![]() Tus ![]() |
Bu farw | Tus ![]() |
Dinasyddiaeth | Samanid Empire, Ghaznavid Empire ![]() |
Galwedigaeth | bardd, llenor ![]() |
Adnabyddus am | Shahnameh ![]() |
Fe'i ganwyd ger Tus yn Khorasan, yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Ysgrifennodd ei gampwaith yn llys Mahmud o Ghazni pan oedd tua 60 oed a'i orffen yn 1008. Cyfansoddodd nifer o gerddi byrrach yn ogystal, yn kasidas a ghazals. Cerdd arwrol arall a gyfansoddodd yw Yusuf u Zulaykha, seiliedig ar hanes Ioseff a gwraig Potiphar yn yr Hen Aifft.