Arwrgerdd

(Ailgyfeiriad o Epig)

Barddoniaeth draethiadol ar ffurf cerdd hir neu gylch o gerddi yw arwrgerdd neu epig sy'n adrodd hanes mawr am ryw gorchwyl caled neu gampau beiddgar, gan canolbwyntio ar arwr neu griw o gymeriadau dewr, fel arfer gyda themâu cenedlaetholgar, mytholegol, neu grefyddol. Rhennir y genre hon yn arwrgerddi cynradd, sy'n tarddu o'r traddodiad llafar, ac arwrgerddi eilaidd, a gyfansoddir yn ysgrifenedig gan awduron unigol.

Arwrgerdd
Enghraifft o'r canlynoldosbarth llenyddol, literary genre by form Edit this on Wikidata
Mathllenyddiaeth epig, verse poetry, barddoniaeth naratif Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfansoddir yr arwrgerdd fel rheol mewn iaith dra ffurfiol ac arddull mawreddog. Dull o drosglwyddo hanes a mytholeg o oes i oes oedd arwrgerddi cynradd yr Henfyd, a gwnaethpwyd hynny ar lafar. Byddai'r genhedlaeth iau yn addasu ac ychwanegu at hanes traddodiadol a chwedloniaeth eu cyndeidiau, gan ddatblygu llên llafar oedd yn ganolog i ddiwylliant eu cymdeithas am ganrifoedd. Mae'r fath farddoniaeth yn darlunio rhyw oes arwrol neu euraid, neu'n adrodd straeon tarddiad am ddechreuad y byd neu wawr y genedl. Yr arwrgerdd hynaf yr ydym yn gwybod amdani yw Epig Gilgamesh, cerdd Swmereg o Fesopotamia sy'n dyddio ar ei ffurf ysgrifenedig o 2100 CC. Ymhlith arwrgerddi traddodiadol eraill mae Ramayana a Mahabharata yr Indiaid, Beowulf yr Eingl-Sacsoniaid, Manas y Cirgisiaid, a Kalevala y Ffiniaid.

Golygyfa o'r Iliad ar amffora Roegaidd o'r 6g CC.

Yr arwrgerddi hynaf a phwysicaf yn llên Ewrop a chanon y Gorllewin yw'r Iliad a'r Odyseia, a briodolir i Homeros. Cyn iddynt gael eu cofnodi, roeddynt yn rhan o draddodiad llafar beirdd yr Hen Roeg a chawsant eu canu o'r cof mewn gwleddoedd neu ymgynulliadau tebyg. Cynhyrchwyd corff o arwrgerddi eilaidd gan lenorion Ewrop, ar sail yr arwrgerdd Homeraidd, gan gynnwys Yr Aenid gan Fyrsil, La Gerusalemme liberata gan Torquato Tasso, a Coll Gwynfa gan John Milton. Datblygodd hefyd sawl corff neilltuol o farddoniaeth epig ar draws Ewrop, megis Cylch Arthur ym Mhrydain a chansons de geste yn Ffrainc.

Cyflwynwyd elfen o hiwmor i'r arwrgerdd Ewropeaidd gan Batrachomyomachia ("Brwydr y Brogaid a'r Llygod"), parodi o'r Iliad sy'n dyddio o oes Alecsander Fawr. Ymhlith y ffurfiau eraill ar yr epig mae'r anifeilgerddi Lladin o'r Oesoedd Canol a'r arwrgerddi ddifrif-ddigrif o'r Dadeni, yr enghraifft wychaf ohonynt Morgante gan Luigi Pulci. Ffurf ddychanol sy'n efelychu arferion yr arwrgerdd ydy'r ffug arwrgerdd, sy'n adrodd helyntion cymeriad dinod a rhigolau ei fywyd. Enghraifft amlwg o'r genre honno yw The Rape of the Lock gan Alexander Pope.

Defnyddir y gair epig i gyfeirio at weithiau mawr eraill sy'n ymdrin â themâu tebyg, er enghraifft nofelau epig megis Vojna i mir ("Rhyfel a Heddwch") gan Lev Tolstoy neu ffilmiau epig megis Lawrence of Arabia.

Darllen pellach golygu

  • Charles R. Beye, Ancient Epic Poetry (Ithaca, Efrog Newydd: Cornell University Press, 1993).