Ffŵl Ebrill
Dethlir Ffŵl Ebrill mewn nifer o wledydd ar fore 1 Ebrill bob blwyddyn. Nid yw Dydd Ffŵl Ebrill yn wŷl genedlaethol, ond adnabyddir a dethlir y dydd yn fyd-eang fel diwrnod pan fydd pobl yn chwarae pranciau ar ei gilydd.
Nid oes sicrwydd beth yw tarddiad yr arferiad. Yn ôl un ddamcaniaeth, daeth o wŷl Rufeinig hynafol i ddathlu'r dduwies Ceres pan fyddai dynion yn chwarae bili-ffŵl a gwisgo dillad benywod. Mae'r ail ddamcaniaeth yn cysylltu'r traddodiad hwn â dathliadau blwyddyn newydd. Cyn y flwyddyn 1582, pan gyflwynwyd calendr newydd, yr oedd pobl yn arfer dathlu blwyddyn newydd ar ddiwedd mis Mawrth ac yr oedd 1 Ebrill yn ddiwedd cyfnod o adloniant. Gan hynny, awgryma eraill y byddai'r rhai a oedd yn dathlu ar 1 Ionawr yn chwerthin am bennau'r rhai a oedd yn dal i ddathlu yn y gwanwyn.