Ceres (duwies)
Duwies amaethyddiaeth yn y Rhufain hynafol oedd Ceres, y ffurf Rufeinig ar y dduwies Roegaidd Demeter. Mae'n bosibl y bu Ceres yn un o dduwiesau brodorol yr Eidal yn wreiddiol, ond daw i'r amlwg yn hanes Rhufain yn 496 CC pan gyflwynwyd addoliaeth Demeter, Persephone (Lladin: Proserpina) a Dionysus (Lladin: Bacchus) adeg sychder mawer ar orchymyn offeiriaid y Sibyl.
Enghraifft o'r canlynol | duwdod Rhufeinig, duwdod amaethyddol, duwies |
---|---|
Rhan o | Aventine Triad, Dii Consentes |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fel cwlt swyddogol roedd addoliad Ceres yn dilyn y patrwm Groeg yn llwyr. Roedd y Rhufeiniaid yn arfer dathlu gemau'r Cerealia ar ddechrau mis Ebrill. Roedd yna ddathliad arall ym mis Awst: byddai'r merched yn ymprydio am naw diwrnod ac wedyn yn cyflwyno offrymau blaenffrwyth y tymor i Ceres, gan wisgo coronau o ŷd.
Pobl gyffredin oedd ei haddolwyr, yn bennaf, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Yno y ceir y dystiolaeth gryfaf am y dduwies Eidalaidd hynafol ei hun. Arferai'r werin bobl offrymu hwch (porca praecadanaea) i Ceres cyn gychwyn ar y gwaith o gael y cynhaeaf i mewn ac yn cyflwyno'r blaenffrwyth ŷd i deml y dduwies.
Ffynhonnell
golygu- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).