Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau
Enw pumed casgliad o emynau William Williams (Pantycelyn) yw Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau. Cyfeirir ato'n aml fel Ffarwel Weledig.
Enghraifft o'r canlynol | Emynau |
---|---|
Awdur | William Williams, Pantycelyn |
Fe'i cyhoeddwyd mewn tair rhan rhwng 1763 a 1769. Ceir 84 emyn yn y rhan gyntaf a 85 yr un yn y ddwy ran olaf.
Mae Ffarwel Weledig yn cael ei ystyried fel un o'r enghreifftiau gorau o waith Pantycelyn sy'n dangos ei awen ar ei haeddfetaf.
Mae teitl y nofel fer Ffarwel Weledig gan Cynan (1946) yn adlais o enw casgliad Pantycelyn.