Nofel fer gan Cynan a gyhoeddwyd gan Wasg Y Brython (Lerpwl, 1946) yw Ffarwel Weledig.

Ffarwel Weledig
Siaced lwch Ffarwel Weledig (cynlluniwyd gan E. Meirion Roberts)
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurCynan
CyhoeddwrGwasg Y Brython
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1946
GenreNofel epistolaidd

Mae'r teitl yn adlais o'r casgliad emynau Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau (1763-1769), gan William Williams (Pantycelyn).

Ei his-deitl yw Rhamant am Facedonia. Fe'i lleolir yn ardal Macedonia ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd.

Nofel epistolaidd ydyw, ar ddull llythyr y mae milwr o Gymro ifanc o'r enw Gwilym Bowen yn ysgrifennu adref, er bod ei deulu ac eraill yn tybio ei fod wedi ei ladd gan y gelyn. Ond yn hytrach na chael ei ladd fe'i achubwyd gan bennaeth y Romani ym Macedonia. Ym mynyddoedd gwyllt y Balcanau mae'r arwr yn dysgu llawer amdano'i hun a'r byd.

Stori ddigon rhamantaidd ydyw ar un ystyr - mae'r arwr yn syrthio mewn cariad â merch Romani ddel o'r enw Carita, er enghraifft - ond mae hi hefyd yn nofel sy'n ymdrin â natur gormes a thrais mewn ffordd gynnil a threiddgar, heb bregethu yn eu cylch.

Mae'n nofel anodd ei chategoreiddio, ond erys yn glasur bach sy'n deffro'r dychymyg ac yn swyno'r synhwyrau.