Ffatri Airbus UK, Brychdyn

Ffatri adeiladu adenydd awyrennau ym Mrychdyn, Sir y Fflint, yw Ffatri Airbus UK Brychdyn. Cwmni EADS (European Aeronautic Defence and Space N.V.) sy'n berchen ar y safle.

Ffatri Airbus UK, Brychdyn
Mathffatri Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint
GwladBaner Cymru Cymru
Rheolir ganAirbus UK Edit this on Wikidata

Fe adeiladwyd y ffatri ym Mrychdyn fel ffatri ‘cysgod’ yn nechrau yr Ail Ryfel Byd. Dros y blynyddoedd mae wedi cael ei ddefnyddio gan y cwmniau Vickers-Armstrongs Ltd; The de Havilland Aircraft Co. Ltd; Hawker Siddeley Aviation Ltd; BAE Systems a heddiw gan Airbus.

Fe agorwyd y ffatri ym Medi 1939 o dan reolaeth Vickers-Armstrongs i adeiladu'r awyren fombio Vickers Wellington. Fe hedfanodd yr awyren gyntaf ym mis Awst 1939 ar ôl cael ei hadeiladu mewn cyfleusterau dros dro, cyn i’r prif adeiladau gael eu gorffen. Fe roedd yna 7,000 o bobl yn gweithio ym Mrychdyn yn 1943, rhyw 5,000 ohonynt yn ferched. Fe adeiladwyd 5,540 o awyrenau Wellington rhwng Awst 1939 a Medi 1945, gyda uchafswm o 130 awyren y mis yn cael eu cynhyrchu.

Ym 1944 fe gafwyd cytundeb i adeiladu 680 o’r awyrenau fomio Avro Lancaster ond gyda diwedd yn dod i’r rhyfel, dim ond 235 gafodd eu cynhyrchu rhwng Mehefin 1944 a Medi 1945, gyda uchafswm o 36 y mis. Mae y Lancaster PA474 sydd yn hedfan heddiw gyda’r Lly Awyr‘ Battle of Britain’ flight yn un o rhai diwethaf a gynhyrchwyd ym 1945.

Ar ôl gorffen adeiladu awyrennau ym 1945, fe defnyddiwyd y ffatri i gynhyrchu rhyw 28,000 o dai ‘ pre-fabs ‘ hyd at Mawrth 1948.

Yn nechrau 1948 fe roedd y de Havilland Aircraft Co. Ltd. o Hatfield, Swydd Hertford, yn edrych i helaethu eu cyfleusterau gyda gwaith allforio, a cymerwyd y ffatri drosodd ar y 1af Gorffennaf 1948. Yr awyren gyntaf i hedfan dan rheolaeth de Havilland oedd dh Mosquito NF38 ym mis Medi 1948 ac fe adeiladwyd 81 Mosquito rhwng 1948 a Tachwedd 1950.

Awyrenau eraill o stabl de Havilland i’w adeiladu ym Mrychdyn yn y 50au a’r 60au oedd :-

  • Dh Hornet/Sea Hornet; 149 rhwng 1948 ac 1952.
  • Dh Vampire; 1244 rhwng 1949 a 1963.
  • Dh Chipmunk; 889 rhwng 1950 a 1956.
  • Dh Venom; 775 rhwng 1952 a 1958.
  • Dh Dove; 209 rhwng 1951 a 1959.
  • Dh Heron; 143 rhwng 1953 a 1967.
  • Dh Comet; 40 rhwng 1957 a 1964.
  • Dh Beaver, 46 rhwng 1960 a 1967.
  • Dh Sea Vixen, 30 rhwng 1962 a 1966.

Ym 1966/67 fe gafodd un o’r ddau awyren Comet diwethaf ei addasu i fod yn awyren cynddelw i’r HS801 Nimrod, a hedfanodd am y tro cyntaf o Frychdyn ar y 23ain Mai 1967 a glaniodd yn Woodford, ger Manceinion. Rhwng 1966 ac 1970 fe gafodd prif ddarnau 46 awyren Nimrod eu hadeiladu ym Mrychdyn ac eu cludo ar yr y ffyrdd i Woodford i'w cyd-osod a hedfan.

Ym 1962 fe gymerwyd de Havilland drosodd gan Hawker Siddeley Aviation Ltd., a hefyd ym 1962 fe ddechreuodd paratoadau ar gyfer cynhyrchu y DH125 ‘executive jet’. Fe roedd y 125 yn awyren llwyddiannus dros ben gyda 871 ohonynt yn cael eu cynhyrchu a'u hedfan o Brychdyn rhwng 1963 ac 1996. Fe gafodd British Aerospace ei ffurfio yn 1977 fel yr unig gynhyrchwr awyrenau gwladol ond fe werthwyd y busnes ‘Corporate Jets’ i Raytheon o’r Unol Daleithiau ym 1993. Mae prif ddarnau o’r awyren 125 yn cael eu adeliladu o hyd ym Mrychdyn ac yn cael eu cludo dramor i’r Unol Daleithiau i'w gorffen fel yr awyren Hawker 800.

Ym 1969 fe gafodd Airbus Industrie ei ffurfio rhwng Ffrainc a’r Gorllewin yr Almaen, fe cafodd Hawker Siddeley ei gynnwys fel contractwr i gynhyrchu yr adain i’r awyren A300 ac fe gludwyd y par cyntaf i Bremen ym mis tachwedd 1971. Fe cludwyd y canfed par ym 1978.

Fe cyflawnwyd y cerrig milltir a sydd yn dilyn ;-

  • 1985, yr adain cyntaf yr A320 yn cael eu clydo i Filton, Bryste.
  • 1990, yr adain cyntaf yr A340 yn cael eu trosglwyddo.
  • 1992, y 1,000fed par o adain yn cael eu trosglwyddo ym mis Mai.
  • 1999, y 2,000fed par o adain yn cael eu trosglwyddo ym mis Chwefror.
  • 2002, y 3,000fed par o adain yn cael eu trosglwyddo ym mis Chwefror.
  • 2006, y 3,000fed par o adain i'r teulu A319/A320/A321 yn cael eu trosglwyddo ym mis tachwedd.
  • 2007, y 5,000fed par o adain yn cael eu trosglwyddo

Yng nghanol 2011 bu 36 par o adenydd y teulu A320 yn cael ei cynhyrchu pob mis, ac mae y cyfradd hwn i’w godi i 40 y mis o ddechrau 2012. Fe cyflawnwyd y 5000ed par o adenydd i’r teulu A320 yng nghanol 2011. Mae'r A320 wedi bod mor llwyddiannus, gyda fersion newydd yr A320neo wedi ei datblygu, a fod yna dros 12000 o'r awyrenau wedi eu gwerthu hyd at ddiwedd 2015. Mae tua 10000 o awyrenau o'r teulu A320 nawr wedi eu cynhyrchu, ac ar ôl niwed i gynlluniau tymor hir gan y pandemig Covid mae nawr cynlluniau I gynhyrchu 45 par o adenydd yr A320 y mis yn dechrau cyn ddiwedd 2021.

Yn Awst 2001 fe ddechreuodd gwaith ar y "Ffatri orllewinol" i adeiladu adain i’r "Superjumbo" A380 ac fe agorwyd yng Ngorffennaf 2003. Fe wariwyd rhyw £350m ar y cyflesterau ac mae yr adeilad yn 400 meter o hyd a 200 meter o led, un o'r adeiladau mwyaf yn y wlad. Fe orffenwyd yr adain cyntaf ym Mawrth 2004; mae pob adain yn 36 meter o hyd ac yn pwyso rhyw 30 tunell. Yn lle hedfan mewn awyren cludo 'Beluga' mae maint yr adain yn golygu rhaid iddynt dechrau eu taith ar Afon Dyfrdwy i Mostyn lle meant yn cael eu cludio i Bordeaux ar y llong "Ville de Bordeaux". Fe hedfanodd yr A380 am y tro cyntaf yn Ebrill 2005.

Yn y diwedd fe roedd y prosiect A380 yn un siomedig i`r cwmni ; yn Chwefror 2019 fe fu cyhoeddiad fod cynhyrchu yr awyren am ddod I ben cyn diwedd 2021. Fe danfonwyd yr adenydd diwethaf o Brychdyn ym mis chwefror 2020 ac fe hedfanodd yr awyren diwethaf am y tro cyntaf ym Mawrth 2021, ac mae ym mynd I gwmni hedfan Emirates cyn diwedd 2021.

Yn y diwedd fe adeiladwyd ond 251 o'r awyrennau gyd 123 ohonynt yn mynd i un gwmni hedfan Emirates . Fe wnaeth y pandemig Covid yn 2020/21 llawer o ddrwg i'r A380 gyda mwyafrif ohonynt yn cael eu parcio I fynu a gyda ond ychydig o`r cwmni hedfan am eu dychwelyd i'r awyr yn y tymor hir, cwmni Emirates yw y mwyaf I gadw ffydd yn yr awyren.

Ym mis Hydref 2006 fe werthwyd siar 20% a oedd gan BAE Systems yn Airbus, ac ers hynnu perchennog 100% o Airbus, a’r ddwy ffatri a sydd ganddynt ym Mhrydain Fawr, ym Mrychdyn a Filton, yw EADS ( European Aeronautic Defence and Space).

Yn 2008 dechreuodd cynllunio am adeilad newydd `ffatri'r gogleddol` i'r awyren A350; mae yr A350 yn wahanol i'r awyrennau o'i blaen yn defnyddio CFC (Carbon Fibre Composite) yn lle alwminiwm i weithgynhyrchu yr adain.

Fe agorwyd y ffatri "gogleddol: i gynhyrchu'r A350 ar 13 Hydref 2011 gan y Prif Weinidog, David Cameron. Mae’r ffatri yn gorchuddio 46,000 meter sgwar ac wedi costio rhyw 450 miliwn euro, un o’r adeiladau mwyaf i’w godi ym Mhrydain Fawr yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae adain yr A350 yn cael ei cydosod ym Mhrychdyn o ddarnau sydd yn cael eu cynhyrchu o gwmpas y byd. Mae’r croen uchaf CFC sydd yn 31x6 meter o faint, yn dod o Stade yn yr Almaen a’r croen isaf yr un maint yn dod o Illcescas yn Sbaen. Mae’r "spar" blaenol yn dod o’r Unol Daleithiau ar "spar" cefn yn dod o GKN ym Mryste.

Ar ôl cydosod yr adenydd ym Mhrychdyn, meant yn cael eu trosglwyddo i Bremen i’w gorffen gyda'r systemau tanwydd, trydan, hydroleg, yr isfframiau a'r rheolaethau hedfan yn cael eu gosod, cyn i'r adenydd cyrraedd Toulouse a chydosod terfynol yr awyren. Fe cyrhaeddodd yr adain cyntaf ( ochr dde ) i'r awyren prawf strwythyrol yn Toulouse ar y pedwerydd Medi 2012 ac fe gyrraeddod yr adain i'r awyren cyntaf i hedfan MS001 ym mis Hydref 2012. Fe hedfanodd yr awyren A350 cyntaf o Toulouse ar yr 14ed Mehefin 2013. Ym mis hydref 2021 mae tua 910 o`r awyrenau wedi eu archebu gyda 440 yn weithredol gyda cwmniau hedfan y byd, a rhyw 5 awyren y mis yn cael eu cynhyrchu.

Heddiw mae tua 6,000 o weithwyr ym Mrychdyn yn gweithio ar adenydd Airbus.

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Ron Smith, British Built Aircraft: Volume 5, Northern England, Scotland, Wales & Northern Ireland (Stroud: Tempus, 2005)
  • James H. Longworth, Triplane to Typhoon: Aircraft produced by factories in Lancashire and the North West of England from 1910 (Preston, 2005)