Damcaniaeth eglwysig sydd yn gwrthwynebu goruchafiaeth y Pab yn yr Eglwys Gatholig Rufeinig yw Ffebroniaeth[1] a flodeuai yn yr Almaen yn ystod ail hanner y 18g. Datblygwyd gan Johann Nikolaus von Hontheim (1701–90), Esgob Cynorthwyol Trier, yn ei waith De Statu Ecclesiae et Legitima Potestate Romani Pontificis, a gyhoeddwyd dan y ffugenw Justinus Febronius yn Frankfurt-am-Main ym 1763. Dadleuai dros gyfyngu'n llym ar awdurdod a grymoedd y Pab, gan ei wneud yn ddarostyngedig i gyngor cyffredinol o esgobion, a thros gryfhau'r wladwriaeth o'i chymharu â'r eglwys a chyfnerthu'r cyrff esgobol cenedlaethol. Mae syniadau Ffebroniaeth yn debyg i athrawiaethau eraill o lywodraeth eglwysig—megis Galicaniaeth, Erastiaeth, a Joseffiaeth—sydd yn groes i Wltramontaniaeth.

Ffebroniaeth
Portread o Johann Nikolaus von Hontheim ("Justinus Febronius"), sefydlwr Ffebroniaeth.
Enghraifft o'r canlynolCatholigiaeth Edit this on Wikidata

Condemniwyd De Statu Ecclesiae... gan Rufain, a fe'i rhoddwyd ar y rhestr o lyfrau gwaharddedig (Index Librorum Prohibitorum) gan y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd ym 1764. Er i'r ddamcaniaeth ddenu nifer o ymlynwyr, yn bennaf yn y rhannau hynny o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig a oedd yn digio wrth rym y Pab, ni chafodd gefnogaeth oddi ar y mwyafrif o esgobion Almaenig, a dirywiodd y mudiad Ffebronaidd erbyn diwedd y ganrif yn sgil effeithiau'r Chwyldro Ffrengig.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "Febronianism".
  2. (Saesneg) Febronianism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Ionawr 2023.