Goruchafiaeth y Pab

Athrawiaeth yn niwinyddiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig yw goruchafiaeth y Pab sy'n dal taw'r Pab, yn rhinwedd ei swydd yn Esgob Rhufain, yw pennaeth uchaf yr Eglwys Babyddol ac yn meddu awdurdod llwyr ac uniongyrchol dros faterion crefyddol a moesol, yn ogystal â disgyblaeth a gweinyddiaeth eglwysig.

Dau gyfiawnhâd sydd i oruchafiaeth y Pab: safle'r Pab fel olynydd San Pedr, pennaeth yr Apostolion yn ôl y Testament Newydd; ac hanes Eglwys Rhufain. Datblygodd yr athrawiaeth hon ar drywydd hanes yr Eglwys. Mae dau prif destun sy'n disgrifio natur yr athrawiaeth a'i goblygiadau i Babyddion: Unam Sanctum (1302), bwl gan y Pab Boniffas VIII; a Chyfansoddiad Dogmataidd Cyntaf Eglwys Crist, un o ddwy ddogfen Cyngor Cyntaf y Fatican (1869–70). Dyfynodd Boniffas adnodau'r ysgrythur, er enghraifft Mathew 16:19, i brofi natur ddwyfol yr awdurdod a roddid i San Pedr gan Iesu Grist. Dadleuodd bod angen i Gristnogion ymostwng i'r eglwys sy'n etifedd i'r traddodiad apostolaidd, ac felly i'r Pab, er iachawdwriaeth.[1] Ymateb i dwf rhyddfrydiaeth a seciwlaraeth oedd pwrpas Cyngor Cyntaf y Fatican, ond ceisiodd y Pab Pïws IX hefyd i atgyfnerthu'i awdurdod crefyddol yn sgil cwymp Taleithiau'r Babaeth a cholled ei rym gwleidyddol.[2] Cadarnháodd goruchafiaeth y Pab, ac athrawiaeth gysylltiedig anffaeledigrwydd y Pab, gan y Cyngor.[3]

Mae'r pwnc hwn wrth wraidd y rhwyg rhwng yr Eglwys Babyddol a'r Eglwys Uniongred.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Papal Primacy Archifwyd 2016-11-04 yn y Peiriant Wayback ar wefan EWTN. Adalwyd ar 17 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) Peter Stanford. Infallibility of the Pope, BBC. Adalwyd ar 17 Ionawr 2017.
  3. (Saesneg) Cyfansoddiad Dogmataidd Cyntaf Eglwys Crist (18 Gorffennaf 1870) ar wefan EWTN. Adalwyd ar 17 Ionawr 2017.

Darllen pellach

golygu