Fyodor Tyutchev

(Ailgyfeiriad o Ffedor Tiwtsief)

Roedd Fyodor Ivanovich Tyutchev (Ffedor Ifánofits Tiwtsief) (Rwseg: Фёдор Иванович Тютчев) (5 Rhagfyr 180327 Gorffennaf 1873) yn fardd Rwseg a diplomydd Rwsiaidd.

Fyodor Tyutchev
Ganwyd23 Tachwedd 1803 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Ovstug Edit this on Wikidata
Bu farw15 Gorffennaf 1873 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Pushkin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Faculty of History and Philology of Moscow University Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, diplomydd, athronydd, gwleidydd, cyfieithydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Academi Gwyddoniaethau Rwsia Edit this on Wikidata
Arddulltelyneg Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth Edit this on Wikidata
TadIvan Nikolayevich Tyutchev Edit this on Wikidata
MamYekaterina Tolstaya Edit this on Wikidata
PriodEleonora Tyutcheva, Ernestina Pfeffel Edit this on Wikidata
PartnerYelena Denisyeva Edit this on Wikidata
PlantIvan Tyutchev, Mariya Tyutcheva, Anna Tyutcheva, Darya Tyutcheva, Fyodor Tyutchev, Yekaterina Tyutcheva Edit this on Wikidata
LlinachTyutchev family Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Santes Anna, Dosbarth 1af, Urdd Sant Vladimir, 3ydd Dosbarth Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Ganwyd ym mhentref Ovstug ger Bryansk Roedd yn byw ar adegau ym München a Torino ac y roedd yn nghynefin Heine a Schelling. Doedd e ddim yn cyfrannu at fywyd llenyddol, nac yn ei alw ei hun yn ysgrifennwr. Tuag at 400 o'i gerddi sydd ar glawr, ac mae rhai llinellau ohonynt yn cael eu dyfynnu'n aml yn Rwsia.

Mae'r cerddi cynnar yn perthyn i dradoddiad barddoniaeth Rwsiaidd yr 18g. Yn y 1830au traddodiadau Oes Rhamantaidd Ewrop (a'r Almaen yn arbennig) sydd yn gryf iawn yn ei farddoniaeth. Cerddi telynegol athronyddol yw'r rhain: myfyrion ar y dynged ddynol, ar yr hollfyd, ar yr ansawdd sydd yn brif bwnc ohonynt. Yn y 1840au ysgrifennodd rai erthyglau gwledyddol ynglŷn â'r berthynas rhwng Rwsia a gwareiddiad y Gorllewin. Yn y 1850au creuodd Tiwtsief rhai rhieingerddi trywan y mae serch yn cael ei weld fel trasiedi ynddynt. Mae'r cerddi hyn wedi cael eu huniaethu â'r Cylch Denísïefa, nid amgen, y cerddi a gafodd eu cysegru i gariad y bardd, E. A. Denísïefa. Yn y 1860au a'r 1870au cerddi gwleidyddol sydd yn goruchafu yn ei farddoniaeth.

Cerdd enwocaf Tyutchev yw Silentium! — anogaeth chwerw i ddistawrwydd edifaru'r ffaith nad yw'r naill dyn ddim yn gallu deall y llall o'r bron. Mae'r llinell "Anwiredd yw meddwl wedi'i adrodd" (Rwseg Мысль изреченная есть ложь) yn un o ddiarhebion Tyutchev sydd yn cael eu dyfynnu amlaf. "Ni ellir deall Rwsia drwy feddwl" (Умом Россию не понять) a "Ni roddir i ni ddarogan sut yr ymatebith ein gair i ni" (Нам не дано предугадать, как наше слово отзовется) yw'r rhai eraill.

Dolen allanol golygu