Ffermio defaid yng Nghymru
Un o'r prif fathau o ffermio yng Nghymru, ac agwedd bwysig o gymdeithas wledig ac economi'r wlad ers miloedd o flynyddoedd, yw ffermio defaid yng Nghymru. Cedwir defaid am eu llaeth, cig, croen, ac yn bwysicaf oll gwlân.
Defaid oedd yr anifeiliaid amaethyddol a ymaddasodd fwyaf i amodau hinsoddol a thopograffig Cymru pan gliriwyd y coedwigoedd yn ystod Oes Newydd y Cerrig. Dechreuodd yr arfer o ffermio defaid ar raddfa eang gan fynachod Sistersaidd. Roedd ffermio defaid yn eilradd i ffermio gwartheg hyd at gau'r tiroedd comin a diflannu'r arfer o hafota a hendrefa yn y 18g. Sefydlwyd diadelloedd mawr o ddefaid ar yr ucheldiroedd a ffynnodd diwydiant gwlân Cymru.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 285 [DEFAID].