Ffordd y Ffosydd

ffordd Rufeinig yn Lloegr

Ffordd Rufeinig sy'n rhedeg mwy na 230 milltir (360 km) ar draws Lloegr yw Ffordd y Ffosydd[1] (Saesneg: Fosse Way). Fe'i hadeiladwyd yn ystod y ganrif gyntaf a'r ail ganrif OC ac roedd yn cysylltu Isca Dumnoniorum (Caerwysg) yn y de-orllewin a Lindum Colonia (Lincoln) i'r gogledd-ddwyrain. Ar hyd y ffordd roedd yn cysylltu aneddiadau Rhufeinig pwysig Lindinis (Ilchester), Aquae Sulis (Caerfaddon), Corinium (Cirencester), a Ratae Corieltauvorum (Caerlŷr).

Ffordd y Ffosydd
Mathffordd Rufeinig, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBritannia Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Hyd230 milltir Edit this on Wikidata

Mae llawer o rannau o Ffordd y Ffosydd yn dal i’w gweld yn y dirwedd, ac yn ffurfio rhannau o ffyrdd modern, neu fel arall yn nodi’r ffiniau rhwng plwyfi, ardaloedd neu siroedd, ond bellach dim ond ar droed y gellir cael mynediad i rannau eraill.

Cyfeiriadau

golygu