Cirencester

tref yn Swydd Gaerloyw

Tref farchnad hanesyddol a phlwyf sifil yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Cirencester.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Cotswold.

Cirencester
Mathtref farchnad, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Cotswold
Poblogaeth19,076 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iItzehoe, Saint-Genis-Laval Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawAfon Churn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.719°N 1.968°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04013303 Edit this on Wikidata
Cod OSSP022021 Edit this on Wikidata
Cod postGL7 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 19,076.[2]

Mae Caerdydd 87.6 km i ffwrdd o Cirencester ac mae Llundain yn 130.5 km. Y ddinas agosaf ydy Caerloyw sy'n 25.4 km i ffwrdd.

Corinium oedd enw'r Rhufeiniaid am y dref, yr ail fwyaf yn y Brydain Rufeinig.

Hanes golygu

Cododd y Rhufeiniaid ddinas ar safle Cirencester, gyda'r enw "Corinium Dobunnorum". Mae'r amffitheatr yn dal i sefyll, yn ardal Querns. Ar ôl ymadawiad y Rhufeiniaid o Brydain ar ddechrau'r 5g, parhaodd Cirencester yn ganolfan i'r Brythoniaid. Syrthiodd i'r Eingl-Sacsoniaid yn fuan ar ôl iddynt ennill Brwydr Dyrham yn 577.

Yn yr Oesoedd Canol roedd y dref yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân.

 
Amffitheatr Rufeinig Cirencester

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Amgueddfa
  • Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr
  • Gwesty "The Fleece"
  • Tŷ Cirencester
 
Gwesty "The Fleece"

Enwogion golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 14 Mawrth 2020
  2. City Population; adalwyd 2 Gorffennaf 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerloyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato