Ffordd y Llwyni, Wrecsam
Ffordd hanesyddol yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, rhan o ardal gadwraeth a gyda nifer o adeiladau rhestredig, yw Ffordd y Llwyni (Saesneg: Grove Road).
Math | stryd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Offa |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.05°N 3°W |
Lleoliad
golyguMae Ffordd y Llwyni yn gorwedd i'r gogledd o ganol Wrecsam, yn Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor.
Mae'r stryd yn rhedeg yng nghyfeiriad gogledd-ddwyrain, yn arwain o'r gylchfan fawr ar ffordd gylch fewnol i'r gyffordd gyda Ffordd Caer. Mae'r stryd yn ffurfio estyniad o Ffordd Grosvenor tû hwnt i'r y gylchfan (roedd y ddwy stryd yn cael ei datblygu ar yr un pryd).
Hanes
golyguCynlluniwyd Ffordd y Llwyni rhwng 1861 a 1881 (yr un amser a'r Ffordd Grosvenor) fel cylchoedd preswyl o fri ar gyfer dosbarth canol eginol Wrecsam. Lluniwyd pob adeilad yn bensaernïol unigol. [1]
Dynodwyd Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor gyntaf ar 26 Medi 1990 a'i diwygio ar 6 Gorffennaf 2007.
Disgrifiad
golyguCafodd Ffordd y Llwyni ei chynnwys yn Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor oherwydd ei gwerthfawr pensaernïol sylweddol. Mae'r stryd yn un o strydoedd mwyaf pwysig yr ardal gadwraeth.
Mae muriau terfyn o dywodfaen neu frics coch yn ffurfio un o nodweddion cryf Ffordd y Llwyni. Tu ôl y muriau terfyn, mae'r adeiladau'n sefyll yn ôl o'r ffordd, o fewn eu tiroedd eu hunain. Adeiladwyd y tai eu hunain o ddeunyddiau fel gwaith cerrig nadd a therracotta.
Mae ailddatblygiadau o ganol i ddiwedd yr 20fed ganrif wedi tarfu cymeriad hanesyddol Ffordd y Llwyni, yn enwedig ar ei hochr dde-ddwyreinol. Serch hynny, mae nifer o adeiladau rhestredig gradd II yn sefyll o hyd. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Rhif 3 (Plas Gwilym) - Adeiladwyd y tŷ rhwng 1861 ac 1866 ar gyfer S.T Baugh, yn ôl pob tebyg ar ôl cynllun gan JR Gummow. Enw gwreiddiol y tŷ oedd Leeswood House, ond erbyn 1910 roedd ei enw wedi newid i “Plas Gwilym” [2]
- Epworth Lodge, tŷ gafodd ei adeiladu yn 1865 fel rheithordy ar gyfer y capel methodistiaid Bryn y Ffynnon [3]
- Rhif 9 - tŷ preifat gafodd ei adeiladu yn 1881, yn sefyll yn ôl o'r ffordd mewn gardd gaeedig [4]
- Fern Bank a'r Hen Gerbyty - tŷ preifat gafodd ei adeiladu yn 1873 ar ôl cynllun gan JR Gummow, ar gyfer Mr Ezekiel Mason. Cafodd y tŷ ei ddisgrifio gan JR Gummow fel 'anglo-Italian cottage' [5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cynllun Rheoli ac Asesu Ardal Gadwraeth Ffordd Grosvenor" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
- ↑ "Plas Gwilym, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
- ↑ Palmer, Alfred Neobard. A History of the Older Nonconformity in Wrexham and its Neighbourhood. 1893. tt. p. 72.CS1 maint: extra text (link)
- ↑ "NO.9 Grove Road (NW Side), Clwyd, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
- ↑ "Fern Bank and former Coach House, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 11 Mai 2023.