Fforenseg gyfrifiadurol

Cangen o gyfrifiadureg ddigidol sy'n ymwneud â thystiolaeth gyfreithiol a ddarganfyddir mewn cyfrifiaduron a chyfryngau storio digidol ydy fforenseg gyfrifiadurol (gelwir yn cyfrifiadureg gyfrifiadurol[1] weithiau). Cyrchnod fforenseg gyfrifiadurol ydy archwilio cyfryngau digidol mewn dull diogel fforensig gyda'r bwriad o adnabod, cadw, adfer, dadansoddi, a chyflwyno ffeithiau a barnau ar y wybodaeth a ddarganfyddir.

Nid yw dadansoddiad fforenseg gyfrifiadurol wedi'i gyfyngu i gyfryngau cyfrifiadurol

Er iddo gael ei gysylltu ag archwilio trosedd gyfrifiadurol eang ei natur yn bennaf, gellir defnyddio fforenseg gyfrifiadurol ar gyfer achosion sifil hefyd. Mae'r ddisgyblaeth yn debyg i dechnegau ac egwyddorion adfer data, ond mae ganddo ganllawiau ac arferion ychwanegol a gynllunnir i greu trywydd archwilio cyfreithlon.

Dodir tystiolaeth fforenseg gyfrifiadurol dan archwiliad sy'n debyg i ganllawiau ac arferion tystiolaeth ddigidol eraill. Fe'i defnyddiwyd mewn nifer o achosion proffil uchel ac mae'n dod yn arfer normal o fewn systemau llys Ewropeaidd ac Americanaidd.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Michael G. Noblett (2000). "Recovering and examining computer forensic evidence". Cyrchwyd 26 July 2010. Unknown parameter |coauthors= ignored (help); Unknown parameter |month= ignored (help)

Darllen pellach golygu

Siwrnalau perthnasol golygu

Dolenni allanol golygu