Fforest Culbin
fforest ym Moray, yr Alban
Fforest fytholwyrdd yw Fforest Culbin. Ar un adeg, roedd stad fferm ar y safle. Cymerwyd Môr-hesg a phlanhigion eraill gan bobl leol ar gyfer eu toeon, a daeth y tir yn dwyni tywod. Daeth yr ardal yn anialwch ar ôl storm o dywod ym 1694.
Math | coedwig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Culbin Sands, Forest and Findhorn Bay |
Sir | Moray |
Gwlad | Yr Alban |
Cyfesurynnau | 57.6264°N 3.7222°W |
Prynwyd y tir gan y Gomisiwn Goedwigaeth yn 1920au, a phlannwyd pinwydd a phyrwydd o’r 1930au ymlaen.[1] Mae bedw hefyd erbyn hyn. Mae nifer o lwybrau, sawl pwll, ac mae maes parcio a thoiledi.[2] Mae mwyafrif y traeth cyfagos yn warchoda natur Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Mae’r fforest a thraeth yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.