Pinwydd
Pinwydden yr Alban (Pinus sylvestris)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Pinophyta
Dosbarth: Pinopsida
Urdd: Pinales
Teulu: Pinaceae
Genws: Pinus
L.
Rhywogaethau

tua 115

Genws o gonwydd yn nheulu'r Pinaceae yw'r pinwydd (Pinus); lluosog: pîn. Mae ganddynt ddail llinynaidd a chul, o liw gwyrdd tywyll. Tyfant y coed hyn, fel rheol, yn sypiau gyda'i gilydd, mewn ardaloedd mynyddig a lleoedd agored ar draws hemisffer y gogledd. Mae rhai rhywogaethau yn tyfu ar dir isel, ac mewn tiroedd tywodlyd a digynnyrch, yn enwedig yng Ngogledd America. Pinwydd bychain, yn debycach i brysgwydd na choed, sydd yn tyfu yn yr hinsoddau oeraf.

Pinwydden yr Alban yw'r unig rywogaeth sydd yn gynhenid i Brydain.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.