Ffrwydrad Ankara 2007
Ymosodiad gan hunanfomiwr yn Ankara, prifddinas Twrci, ar 22 Mai 2007 oedd ffrwydrad Ankara 2007. Bu farw chwe pherson, yn cynnwys un o dras Bacistanaidd, ac anafu 121. Bu farw seithfed person o ganlyniad i'w anafiadau ar 7 Mehefin, wythfed person ar 17 Mehefin, a nawfed person ar 4 Gorffennaf.
Enghraifft o'r canlynol | hunanfomio |
---|---|
Dyddiad | 22 Mai 2007 |
Lladdwyd | 9 |
Lleoliad | Ankara |
Ffrwydrodd yr hunanfomiwr ger arhosfan bws tu allan i ganolfan siopa Anafartalar yn ardal Ulus yn ystod awr frys y prynhawn.[1][2] Dywedodd y Maer Melih Gokcek, "Dyma'r olygfa erchyllaf imi ei gweld erioed", ac aeth y Prif Weinidog Recep Tayyip Erdogan yno a datgan "Gwelsom ymosodiad terfysgol creulon a didrugaredd ar amser prysuraf Ankara". Ar gais erlynydd mewn un o lysoedd Ankara, gwaharddwyd darlledwyr a phapurau newydd rhag dangos lluniau o'r ffrwydrad "er lles yr ymchwiliad".[3] Er hyn, dangoswyd y clwyfedigion a rhannau cyrff yn cael eu symud gan yr heddlu ar y sianel deledu breifat NTV.[4]
Ni chafodd gyfrifoldeb ei hawlio yn syth, ond yn ôl yr heddlu ffrwydron plastig A-4 a achosodd y ffrwydrad, yr un fath o ffrwydron a ddefnyddir gan wrthryfelwyr Cyrdaidd.[3] Roedd Plaid Gweithwyr Cyrdistan (PKK) felly dan amheuaeth o'r ymosodiad. Y blaid honno oedd yn gyfrifol am sawl ymosodiad yn 2006, ac ychydig dyddiau cyn ffrwydrad Ankara, ar 18 Mai, datganodd y PKK derfyn i'w gadoediad. Er hynny, gwadodd y PKK gyfrifoldeb am ffrwydrad Ankara[5] a chyn yr ymosodiad fe ddatganodd un o gadlywyddion y PKK, Murat Karayilan, taw asiantaeth cudd-wybodaeth Twrci oedd i feio am ffrwydrad lori yn Arbil, Irac, ar 9 Mai ac bydd ymosodiadau tebyg i'w disgwyl mewn dinasoedd Twrci.[3] Datganodd Kemal Onal, Llywodraethwr Ankara, taw Guven Akkus, dyn 28 oed o dde-ddwyrain y wlad, oedd yr hunanfomiwr.[2]
Digwyddodd yr ymosodiad ychydig wythnosau cyn etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf. Yn sgil y ffrwydrad, galwodd y Prif Weinidog Erdogan am ymgyrch filwrol yn erbyn gwrthryfelwyr Cyrdaidd yng ngogledd Irac.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Explosion rocks Turkish capital, BBC (22 Mai 2007). Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Turkey Says Attack Was Suicide Bombing, The Washington Post (24 Mai 2007). Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Bomb in Turkish capital kills six, injures 80, Reuters (23 Mai 2007). Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.
- ↑ (Saesneg) Explosion strikes Turkish capital, Al Jazeera (22 Mai 2007). Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.
- ↑ 5.0 5.1 (Saesneg) Ankara suicide bomber identified, Al Jazeera (24 Mai 2007). Adalwyd ar 30 Gorffennaf 2017.