Ffrwydradau Iemen, Rhagfyr 2014

Ar 16 Rhagfyr 2014 bu farw 25 o bobl, gan gynnwys 15 o blant, pan ffrwydrodd dau fom car yn ardal Radaa yn nhalaith Bayda yng nghanolbarth Iemen. Ffrwydrodd y bom cyntaf ger rheolfa gwrthryfelwyr Houthi wrth i fws ysgol gynradd yrru heibio, gan ladd 15 o ferched. Ffrwydrodd yr ail fom ger cartref un o arweinwyr y Houthi, Abdullah Idris, gan ladd 10 o bobl. Yn ôl y Houthi a Gweinyddiaeth Amddiffyn Iemen, al-Qaeda yng Ngorynys Arabia oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau.[1]

Ffrwydradau Iemen, Rhagfyr 2014
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad Edit this on Wikidata
Lladdwyd31 Edit this on Wikidata
Rhan oYemeni Crisis Edit this on Wikidata
LleoliadRadda District Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Yemen car bomb attacks 'kill 15 children'. BBC (16 Rhagfyr 2014). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2014.