Gwlad yn ne-orllewin gorynys Arabia yw Gweriniaeth Iemen neu Iemen (Arabeg: اليَمَن‎ Al Yaman). Y gwledydd cyfagos yw Sawdi Arabia i'r gogledd ac Oman i'r dwyrain. Yn y de mae gan y wlad arfordir ar y Môr Coch a Gwlff Aden. Sana'a yw prifddinas y wlad.

Yemen
Emblem of Yemen.svg
Arwyddair الله ،الوطن، الثورة، الوحدة Edit this on Wikidata
Math gwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
Lb-Jemen.ogg Edit this on Wikidata
Prifddinas Sana'a, Aden Edit this on Wikidata
Poblogaeth 28,250,420 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1990 Edit this on Wikidata
Anthem National anthem of Yemen Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Maeen Abdulmalik Saeed Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Y Dwyrain Canol Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Iemen Iemen
Arwynebedd 555,000 ±1 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Sawdi Arabia, Oman Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 15.5°N 48°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Government of Yemen Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Parliament of Yemen Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
President of Yemen Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Abdrabbuh Mansour Hadi Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prime Minister of Yemen Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Maeen Abdulmalik Saeed Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) 18,213 million $ (UDA) Edit this on Wikidata
CMC y pen 1,106 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Arian Yemeni rial Edit this on Wikidata
Wrth gefn 5,344,296,890 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 60 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 4.16 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.452 Edit this on Wikidata

Mae ganddi dros 555,000 km sgwâr o arwynebedd a phoblogaeth o tua 24 miliwn (2010). Mae ei ffiniau yn cwmpasu dros 200 o ynysoedd, y mwyaf o'r rheiny ydy Socotra a leolir tua 415 km i'r de o'r tir mawr, ac i ffwrdd o arfordir Somalia. Hi yw'r unig wlad arabaidd sydd a llywodraeth gweriniaethol.

DaearyddiaethGolygu

 
Ffiniau modern y wlad gyda Sawdi Arabia i'r gogledd.

Mae'r wlad, sydd ag arwynebedd o 527,970 km sgwâr: tua'r un faint â Gwlad Tai – ac ychydig mwy na thalaith California, sy'n ei gwneud y 49fed gwlad mwyaf ei maint. Hyd at arwyddo cytundeb heddwch Iemen-Sawdi Arabia yng Ngorffennaf 2000, roedd ei ffiniau'n annelwig gan na all pobl fyw yn y diffeithwch hwn. Gellir rhannu'r wlad, yn ddaearyddol, yn bedair rhan: gwastatiroedd arfordirol y gorllewin, ucheldiroedd y gorllewin, ucheldiroedd y dwyrain a Rub al Khali yn y dwyrain.

Chwyldro 2011Golygu

Prif erthygl: Chwyldro Iemen

Yn dilyn cynnau gwreichionen chwyldro Arabaidd Tiwnisia yn Rhagfyr 2011 a Gwanwyn 2011 ymledodd y protestiadau drwy nifer o wledydd y Dwyrain Canol gan gynnwys protestiadau yn Iemen. Ar yr un pryd gwelwyd chwyldro yn yr Aifft a llefydd eraill. Ar y cychwyn codwyd llais yn erbyn diweithdra, y cyflwr economaidd ac yn erbyn llygredd yn llywodraeth Iemen.[1] Cafwyd protestio hefyd yn erbyn bwriad y llywodraeth i newid cyfansoddiad Iemen. O fewn dyddiau bron, galwyd am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Ali Abdullah Saleh. Trodd llawer o filwyr a swyddogion y llywodraeth at ochr y protestwyr. Ar y 23 Ebrill cytunodd Saleh i ymddiswyddo, ond gwrthododd i arwyddo'r cytundebau priodol; gwnaeth hyn dair gwaith.

CyfeiriadauGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato