Ffrwydradau Llundain 21 Gorffennaf 2005

Ymosodiad terfysgol yn Llundain oedd yr hyn a adanbyddir fel Ffrwydradau Llundain 21 Gorffennaf 2005. Gosododd terfysgwyr bedwar bom ar y sustem gludiant i brifddinas tua chanol dydd 21 Gorffennaf 2005: yng ngorsafoedd tanddaearol Shepherd's Bush, Warren Street ac Oval ac ar fws yn Shoreditch. Gwaredwyd y pumed bom gan y bomiwr, heb ei ffrwydro.[1]

Ffrwydradau Llundain 21 Gorffennaf 2005
Math o gyfrwngymosodiad terfysgol Edit this on Wikidata
Dyddiad21 Gorffennaf 2005 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
LleoliadLlundain, Rheilffordd Danddaearol Llundain, Shoreditch Edit this on Wikidata
Map

Bwriad y terfysgwyr oedd lladd cymaint o bobl ag oedd yn bosib, ond yn ffodus, dim ond y 'detonators' a ffrwydrodd, ac ychydig oedd y difod, gydag un anaf yn unig. Dihangodd y terfysgwyr am y tro.

Ar 9 Gorffennaf 2007, ymddangosodd pedwar diffinydd o flaen y llys: Muktar Ibrahim, 29, Yassin Omar, 26, Ramzi Mohammed, 25, a Hussain Osman, 28. Cafwyd hwy yn euog o gynllwynio i lofruddio.[2] Dedfrydwyd pob un o'r pedwar i garchar am oes, gyda lleiafswm o 40 mlynedd yr un.[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "21 July: Attacks, escapes and arrests". BBC News. 11 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-20. Cyrchwyd 2016-07-21. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Four guilty over 21/7 bomb plot". BBC News. 10 Gorffennaf 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-20. Cyrchwyd 13 Awst 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Percival, Jenny (11 Gorffennaf 2007). "Patient wait for life behind bars". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-20. Cyrchwyd 2016-07-21. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)