Ffrwydradau Marathon Boston
Ymosodiad terfysgol yn ystod ras Farathon Boston yn 2013 gan y brodyr Tamerlan a Dzhokhar Tsarnaev oedd ffrwydradau Marathon Boston. Ar 15 Ebrill 2013, ffrwydrodd ddau fom yn agos i linell derfyn y marathon ar Boylston Street ger Copley Square yn Boston, Massachusetts, UDA, am 2:50 p.m. EDT (18:50 UTC).[1] Bu farw tri, a chafodd nifer o bobl eraill yn y dorf eu hanafu'n ddifrifol a cholli coesau. Cafodd mwy na 260 eu hanafu i gyd. Y diwrnod wedi'r ffrwydradau, datganodd yr Arlywydd Barack Obama bod yr FBI yn ei drin fel ymosodiad terfysgol.[2]
Enghraifft o'r canlynol | ffrwydrad, ymosodiad terfysgol, ymosodiad gyda bom |
---|---|
Dyddiad | 15 Ebrill 2013 |
Lladdwyd | 3 |
Lleoliad | Boston |
Lleoliad yr archif | Massachusetts Institute of Technology Libraries |
Rhanbarth | Boston, Cambridge, Watertown |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tridiau wedi'r ffrwydradau, cafodd heddwas ei saethu'n farw ar gampws MIT a chafodd cerbyd ei gipio a'i yrru i faestref Watertown, Boston. Dilynai'r car a chafwyd ysgarmes rhwng yr heddlu a Tamerlan a Dzhokhar Tsarnaev. Llwyddodd Dzhokhar i ddianc yn y car, ond anafwyd Tamerlan a bu farw yn yr ysbyty ar 19 Ebrill. Cyhoeddid lockdown swyddogol yn y rhan fwyaf o'r ddinas wrth i'r heddlu mynd o ddrws i ddrws yn chwilio am yr ail frawd. Daeth un o drigolion Watertown o hyd i Dzhokhar yn cuddio yn ei gwch yn ei ardd. Cafodd ei arestio, ac yn 2015 cafwyd yn euog o 30 o droseddau'n ymwneud â ffrwydradau'r marathon a'i ddedfrydu i farwolaeth. Islamiaeth eithafol oedd cymhelliad y brodyr Tsarnaev, ond nid oes tystiolaeth o gysylltiadau rhyngddynt a grwpiau terfysgol. Yn hytrach, roeddent wedi "hunan-radicaleiddio".[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Arsenault, Mark (16 Ebrill 2013). 3 killed, more than 140 hurt by bombs at Marathon. The Boston Globe. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
- ↑ (Saesneg) Liptak, Kevin (16 Ebrill 2013). Obama calls attack 'terror'. CNN. Adalwyd ar 16 Ebrill 2013.
- ↑ (Saesneg) Boston Marathon bombing of 2013. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mawrth 2017.