Fibonacci
Mathemategydd Eidalaidd oedd Leonardo o Pisa (c. 1170 – c. 1250), a adwaenir hefyd fel Leonardo Pisano, Leonardo Bonacci, Leonardo Fibonacci, neu, fel rheol, fel Fibonacci. Ystyrir ef gan rai yn fathemategydd mwyaf talentog y Canol Oesoedd. Ganed ef yn Pisa.
Fibonacci | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 1170 ![]() Pisa ![]() |
Bu farw | Unknown ![]() Pisa ![]() |
Dinasyddiaeth | Republic of Pisa ![]() |
Galwedigaeth | mathemategydd ![]() |
Adnabyddus am | Fibonacci sequence, Liber Abaci ![]() |
Tad | Guglielmo Bonacci ![]() |
Ef oedd yn bennaf gyfrifol am ledaeniad y system rhifo Arabaidd yn Ewrop, yn bennaf trwy ei lyfr Liber Abaci a ymddangosodd tua 1202. Enwyd y gyfres rifau a elwir y rhifau Fibonacci ar ei ôl.