Fired Earth

cwmni o Loegr sy'n gwerthu teils yn bennaf

Cwmni Seisnig sy'n gwerthu teils yn bennaf ydy Fired Earth. Maent wedi ehangu i werthu ystod eang o gynnyrch ar gyfer gwella'r tŷ, gan gynnwys ceginau, ystafelloedd ymolchi, paent, rygiau a lloriau. Mae'n hefyd yn cynnig gwasanaeth dylunio a gosod.

Fired Earth
Math
busnes
Sefydlwyd1984
Daeth i ben1998
Gwefanhttps://www.firedearth.com Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y cwmni ym 1984, gan Nicholas Kneale,[1] gyda'r bwriad o darddu a gwerthu teils o waith llaw. Dechreusont mewnt cornel buarth wedi ei logi, gyda ond llond llaw o deils llawr terracotta. Erbyn haf 1984, roedd ganddynt arddangosle fechain yn Llundain, a dechreuodd ystod cynnyrch y cwmni gynnyddu gyda ychwanegiad teils wal gwydrog. O fewn pum mlynedd, Fired Earth oedd prif werthwr teils yn y farchnad-uwch, yn ogystal â fod yn brif brynwyr mewn 20 gwlad yn fyd eang.

Prynwyd Fired Earth oddi wrth ei gyfranddalwyr am £20.6 miliwn ym 1998, gan grŵp buddsoddiad a oedd yn rhan o gwmni yswiriant Prudential. Yn 2001, prynwyd y gadwyn o 55 siop gan Aga Foodservice Group am £29.5 miliwn.[2]

Cynnyrch golygu

Rhestrir isod gynnyrch Fired Earth yn ôl y flwyddyn y'u gyflwynwyd:[1]

  • 1984 Teils llawr Clasurol o Waith Llaw
  • 1985 Teils llawr Llechi Amryliw
  • 1986 Teils wal Delft Seisnig Cynnar
  • 1987 Teils wal Valencia
  • 1988 Teils wal Haute Provence
  • 1989 Teils llawr Encaustic
  • 1990 Teils Mosaig Marmor Venetiaidd
  • 1991 Teils wal Ironbridge
  • 1992 Teils llawr Roman Mosaic
  • 1993 Tribal Handwoven Rugs
  • 1994 Dewis o baent
  • 1995 Teils llawr Umbria
  • 1996 Teils llawr Old Tuscan travertine
  • 1997 Teils llawr geometrig
  • 1998 Teils wal Natural History
  • 1999 Teils wal Mosaig Gwydr Symudliw
  • 2000 Dewis o loriau llawr pren
  • 2001 Versailles Console
  • 2002 Le Bain de Bateau Bath
  • 2003 Dodrefn cegin Bastide
  • 2004 Teils llawr Bric Lubelska
  • 2005 Dewis paent Elements of Colour
  • 2006 Dodrefn ystafell ymolchi Bastide
  • 2007 Teils wal Chantilly
  • 2008 Dodrefn cegin Jura
  • 2009 Architectural Stone

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  Fired Earth Celebrates its 25th Anniversary. The Good Web Guide (2009). Adalwyd ar 16 Ionawr 2010.
  2.  Aga cooks up Fired Earth takeover. BBC (21 Gorffennaf 2001).

Dolenni allanol golygu