Foel Goch (Yr Wyddfa)

bryn (604.5m) yng Ngwynedd

Mae Foel Goch weithiau Moel Goch yn fynydd sy'n rhan o fynyddoedd Yr Wyddfa yn Eryri. Saif i'r gogledd-orllewin o gopa'r Wyddfa ei hun, rhwng Moel Cynghorion i'r dwyrain a Foel Gron, a Moel Eilio i'r gogledd-orllewin. Mae Bwlch Maesgwm yn ei wahanu oddi wrth Moel Cynghorion, a saif Llyn Dwythwch i'r gogledd-orllewin ohono.

Foel Goch
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr604.5 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.08512°N 4.13506°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH5710356344 Edit this on Wikidata
Amlygrwydd92.1 metr Edit this on Wikidata
Map

Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau, ond fel rheol cyrhaeddir i'r copa wrth fynd ar hyd y grib i gyd. Mae modd cyrraedd Bwlch Maesgwm o Lwybr Llyn Cwellyn neu o Lanberis ar draws Cwm Brwynog, ac yna dringo i'r copa.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Is-Hewitt a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 605 metr (1985 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu