Adeilad cabaret a cherdd ydy'r Folies Bergère wedi'i leoli ym Mharis, Ffrainc ac a ddaeth i'r amlwg ym 1882 wedi i Édouard Manet beintio A Bar at the Folies-Bergère sy'n darlunio Sioeferch mewn tafarn, un o'r demimondaineau, yn sefyll o flaen drych.

Folies Bergère
Maththeatr, performance hall Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol2 Mai 1869 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1869 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir9fed bwrdeistref Paris Edit this on Wikidata
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.8742°N 2.345°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolArt Deco Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb hanesyddol cofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Gwisg, c. 1900
Jules Chéret, Folies Bergère, Fleur de Lotus, 1893 - poster Art Nouveau ar gyfer y Ballet Pantomime

Fe'i agorwyd ar yr ail o Fai 1869 fel Folies Trévise, a chafodd gyfnodau llewyrchus iawn yn y 1890au Belle Époque hyd at Années folles y 1920au. Mae'n dal i fodoli ac yn symbol iach o ryddid y Parisien. Fe'i leolir ar 32 rue Richer ar y 9fed Arrondissement, ac fe'i codwyd yn wreiddiol fel tŷ opera y gan y pensaer Plumeret. Newidiwyd yr enw i "Folies Bergère" ar 13 Medi 1872.

Y gorsafoedd métro agosaf yw'r Cadet a'r Grands Boulevards.

Yn 1886, creodd Édouard Marchand genre newydd o adloniant ar gyfer y Folies Bergère: the music-hall revue ble chwareai'r ferch le blaenllaw yn yr adloniant. Un o'r enwocaf oedd y dawnswraig o'r UDA Loie Fuller. Yn 1902, wedi salwch hir, ymddiswyddodd Édouard Marchand.[1] Yn 1926 dawnsiodd Josephoine Baker ei hun i mewn i lyfrau hanes mewn revue o'r enw La Folie du Jour pan ddaeth ar y llwyfan mewn sgert o 'fananas' a dim arall. Mae gwisgoedd ecsotig y Folies Bergère yn fyd-enwog, yn ogystal a'r agwedd rhydd o ddawnsio erotig heb fawr ddim gwisgoedd i guddio a chaethiwo'r corff.

Ers 2006, mae'r Folies Bergère wedi cyflwyno cynyrchiadau cerddorol fel Cabaret (2006–2008) a Zorro the Musical (2009–2010).

Perfformwyr

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu